Popular author Bethan Gwanas's latest novel set in Wales and Australia. Part fact, part fiction, it follows Ann Lewis, an ordinary girl who finds work at a local tailor shop, but her fall from grace isn't far away and leads to an epic journey. Reprint. First Published in 2015.
Wrth ddarllen y llyfr hwn, ail nofel ar bymtheg yr awdures boblogaidd Bethan Gwanas, cawn ein tywys yn ôl i dridegau’r bedwaredd ganrif ar bymtheg ym Meirionnydd, a’n cyflwyno i gast o gymeriadau byw mewn cymdeithas sy’n ymddangos yn gyfarwydd a hapus, a honno wedi ei lleoli yn ardal Dolgellau. Ond wrth ddarllen down i ddeall bod hon yn gymdeithas wahanol iawn wedi’r cyfan, wedi ei rheoli’n haearnaidd gan statws a chrefydd. Ac yng nghanol hyn i gyd mae Ann Lewis, merch ddeunaw oed, yn dechrau torri ei chŵys ei hun.
Wrth ddod i adnabod Ann a gweld ei gobeithion a’i rhwystredigaethau, cawn brofi bywyd merch ifanc hardd mewn cymdeithas lle nad oedd gan fenywod hawl i feddwl drostyn nhw eu hunain. Mae ei safbwynt hi ar fywyd yn newydd a diniwed ac mae’n llais gwahanol iawn i’r hyn a geir yn y rhan fwyaf o nofelau hanesyddol. Gwelwn ei hymwneud â’i ffrindiau a’i chyflogwr, a manylion bywyd beunyddiol y cyfnod mewn naratif naturiol sy’n dangos cefndir hanesyddol y cyfnod. Ceir sôn am bynciau llosg y dydd, megis crogi Dic Penderyn, fel digwyddiadau diweddar a oedd wedi gadael eu hôl yn amlwg ar feddyliau’r bobl.
A dyma un o gryfderau mawr y nofel hon, sef bod y cymeriadau’n bobl o gig a gwaed y gall darllenwyr uniaethu â nhw, er gwaethaf amgylchiadau gwahanol eu bywydau. Er bod eu profiadau nhw’n wahanol iawn i'n rhai ni heddiw, teimlwn ein bod yn dod i’w hadnabod. Mae’r ysgrifennu yn adlewyrchu tafodiaith naturiol yr ardal, a gallwn eu dychmygu yn sgwrsio ymysg ei gilydd wrth basio ar y stryd wrth i fymryn o’u sgwrs gael ei gofnodi.
Ond yn y pen draw nofel yw hon am fywyd a phrofiadau un ferch. Mae’n stori am ramant ac yn gipolwg ar gymdeithas gyfan, yn dod â hanes yn fyw ac yn ennyn chwilfrydedd. Nid esgyrn sychion o archif yw hon ond bywydau unigolion, ac unwaith y caiff y bobl rhwng y cloriau hyn afael arnoch, ni fyddan nhw'n gollwng eu gafael ar frys.
~Meinir Williams @ www.gwales.com
Related Books
Please note that ePub files can now be opened on Kindle.
This website uses cookies. By continuing to use this website you are giving consent to cookies being used. For more information on how you can disable them, visit our Privacy and Cookie Policy.
Strictly Necessary Cookies
Strictly Necessary Cookie should be enabled at all times so that we can save your preferences for cookie settings.
If you disable this cookie, we will not be able to save your preferences. This means that every time you visit this website you will need to enable or disable cookies again.