A gripping novel by a popular author set in the Dolgellau area in present times which uses strong language and imagery to relate the story of a young witch who returns to her home area to seek revenge for past wrongs. Reprint; first published in 2003, and the new edition in 2007.
Nofel newydd a chwip o stori. Ond rhybudd: oni bai eich bod chi'n fodlon cymryd naid sylweddol o ddychymyg, peidiwch â dechrau darllen. Da chi, peidiwch â difethar profiad o ddarllen y llyfr hwn drwy fynnu nad yw gwrachod yn bod. Mae gwrachod yn bod am o leiaf 336 o dudalennau, ac efallai y tu hwnt i hynny hefyd.
Dyna i chi Siwsi, merch ddeniadol, annibynnol, yn ei thri degau; artist cyfoethog yn byw ar ei phen ei hun mae hin wrach. Mae ei ffrindiau Dorti, Cadi, Ann a Lowri yn wrachod hefyd, ond eu bod nhw wedi cael eu troi'n sgwarnogod ers canrifoedd! Mae Siwsi yn brif gymeriad cryf a chofiadwy mae hin wrach nwydwyllt a phenboeth. Does yr un dyn yn ddiogel rhagddi hi ai nwydau, ac os nad yw dyn yn plesio, ni fydd ei fywyd yn werth ei fyw yn llythrennol felly!
Stori yw hon sydd âi gwreiddiau yn yr erlid a fu ar wrachod yn yr ail ganrif ar bymtheg, yn ardal Dolgellaun benodol, a sut mae hynnyn effeithio ar ddisgynyddion yr erlidwyr yn ogystal âr rhai a erlidiwyd. Maen stori serch, yn stori antur, yn stori wyddonias. Mae ynddi elfennau hanesyddol, ond mae hi hefyd wedi ei gosod mewn tref gefn gwlad ar ddechraur unfed ganrif ar hugain syn cynnwys sylwebaeth ar bopeth or mewnlifiad i Jonsi!
Maen amlwg fod cryn dipyn o waith ymchwil wedi mynd i mewn i greur gwaith yma a llwydda Bethan Gwanas, bron yn ddieithriad, i blethur hanes yn gwbl naturiol i wead y stori. Unwaith neu ddwy yn unig y maer darllenydd yn ymwybodol ei fod o neu hi yn cael gwers hanes: ffaith, dyddiad, dadansoddiad.
Er bod gwrachod yn bod, nid ywr mwyafrif o bobl yn fodlon credu ynddynt nau derbyn, felly mae tyndra cyson yn y stori rhwng y ddwy ochr i fywyd Siwsi ai ffrindiau. Tyndra syn cael ei amlygu drwy gyfrwng Wendy ei ffrind cyffredin, ac yn fwy felly ei chymydog gwybodus Rhys y Dolddu. Mae Rhys yn ŵr hysbys, neun ddisgynnydd i un roedd y gwrachod gwrywaidd yn dderbyniol, wrth gwrs. Fe ŵyr Rhys am gyfrinach Siwsi ai pherthynas stormus âi gyndadau, ac maen benderfynol o ddial eu cam a gwared pob gwrach or ardal unwaith ac am byth. Maer tynnu torch rhwng y drwg ar da, neu rhwng y drwg ar drwg oherwydd does yr un garfan yn hoffus iawn yn cadwr darllenydd i fynd hyd at y tudalen olaf un.
Mae hon yn chwip o stori ac maen werth ymroi iw darllen a choelio mewn gwrachod am eisteddiad neu ddau, o leiaf.
~Arwel Rocet Jones @ www.gwales.com
Related Books
Please note that ePub files can now be opened on Kindle.
This website uses cookies. By continuing to use this website you are giving consent to cookies being used. For more information on how you can disable them, visit our Privacy and Cookie Policy.
Strictly Necessary Cookies
Strictly Necessary Cookie should be enabled at all times so that we can save your preferences for cookie settings.
If you disable this cookie, we will not be able to save your preferences. This means that every time you visit this website you will need to enable or disable cookies again.