A young boy and girl, one from north Wales and one from south Wales travel back to the 16th century to the time of the Red Bandits of Mawddwy (Gwylliaid Cochion Mawddwy). Winner of the inaugural T. Llew Jones memorial prize.
Nofel antur i blant 9-12 oed am deithio nol i gyfnod Gwylliaid Cochion Mawddwy. Enillydd cyntaf Gwobr Goffa T. Llew Jones. An adventure time travel novel for 9-12 year olds.
~Cyhoeddwr: Gomer@Lolfa
Heb os, roedd clywed mai Bethan Gwanas oedd enillydd Gwobr Goffa T. Llew Jones yn newyddion hynod o galonogol. Cafodd y gystadleuaeth ei lansio yn 2013 ac fe gyflwynodd 19 o awduron bennod o stori antur i blant rhwng 10 a 12 oed. Ar ôl derbyn y wobr bu Bethan yn trydar – ‘o diar, mae’n rhaid i fi mi orffen y nofel rwan’, ond o ddarllen y 184 tudalen mae’n amlwg na fu hynny’n ormod o dasg iddi.
Nofel antur go iawn sydd yma, wrth i Rhys o Gaerdydd a Mari o sir Feirionnydd fynd yn sownd mewn storm o eira. Rywsut mi ddônt ar draws ei gilydd ger Dinas Mawddwy ac o’r cychwyn mae’r gwahaniaeth rhwng y ddau gymeriad yn fawr. Merch y wlad yw Mari sy’n ddeg oed ond mae Rhys, sy’n ei arddegau, yn amlwg yn dod o'r ddinas. Ei iPad, iPod a phob dim cyfrifiadurol arall sy’n mynd â’i fryd a does ganddo fawr o sgwrs. Dyfalwn fod yr awdur yn fwy hoff o'r ferch fach o Feirionnydd – hwyrach ei bod yn ei gweld yn debyg iddi hi ei hun.
Ond fe gynheswn yn fawr at Rhys wrth iddo orfod delio â phob math o sefyllfaoedd ar ôl iddo ef a Mari ddod o hyd i’r cleddyf hud. Yn wir, yn sydyn o ganol yr eira, fe ddiflanna'r ddau i gyfnod y Gwylliaid yn 1554 a dyna ddechrau ar stori antur hynod. Dyma stori lawn cyffro sy’n dod â rhywfaint o hanes y cyfnod yn fyw i ni – cawn wybod am wisgoedd y Gwylliaid ac am eu harferion byw, a chawn glywed am eu gelyn. Mae’r cyfan yn ddoniol ar adegau a hefyd yn emosiynol iawn wrth i’r Gwylliaid ymdopi â’u tranc a hefyd wrth i’r ddau blentyn ymdopi ag arferion byw y Gwylliaid.
Pwysleisia’r awdur fod llawer o’r stori yn ddychmygol ond mae yma ffeithaiu hefyd, felly dyma math o nofel y gellid ei chyflwyno mewn gwers hanes er mwyn bywiogi’r cyfan. Mae yma ddefnydd da o iaith a thafodiaith, a daw'r cyfan at ei gilydd ar ddiwedd y stori mewn ffordd glyfar ... ond gwell i mi beidio datgelu mwy! Mae gen i blentyn naw oed ac ni ollyngodd hi’r nofel o'i dwylo nes iddi orffen ei darllen. Am chwe phunt namyn ceiniog, dyma fargen a ffilm antur o gyfrol.
~Sarah Down-Roberts @ www.gwales.com
Related Books
Please note that ePub files can now be opened on Kindle.
This website uses cookies. By continuing to use this website you are giving consent to cookies being used. For more information on how you can disable them, visit our Privacy and Cookie Policy.
Strictly Necessary Cookies
Strictly Necessary Cookie should be enabled at all times so that we can save your preferences for cookie settings.
If you disable this cookie, we will not be able to save your preferences. This means that every time you visit this website you will need to enable or disable cookies again.