An uplifting, warm and humorous novel which explores the relationship between wise Welsh sheepdog Mot and his owner Lea. Will Mot help Lea find true love?
Dyma gyfrol go wahanol, yn gyfuniad o hunangofiant a nofel. Cawn gan Bethan Gwanas stori Mot y Ci a stori Lea a ddaeth yn berchennog iddo. Mae'r nofel yn glyfar iawn wrth ein harwain trwy gyfrwng lleisiau’r cymeriadau. Mae yna elfennau o ddigrifiwch eithriadol ac yna tristwch, felly mae'r pegynau'r llon a'r lleddf yn gwmni i'r darllenydd ar daith ddifyr dros ben.
Roeddwn i, fel amryw o rai eraill, wedi camddehongli'r teitl, gan feddwl mai prawf MOT ydoedd. Disgwyliais droi at stori am ymbalfalu dan fonet y car neu am asesiad iechyd gan feddyg! Ond teitl clyfar iawn ydyw Prawf Mot, gan roi stori i ni am y ci Cymreig (a Chymraeg) llawn cymeriad wrth iddo asesu addasrwydd cariadon i'w berchennog!
Mae arddull Bethan Gwanas yn wych, fel y disgwyliwn, ac fe fyddwn yn sicr yn dweud fod apêl y llyfr yn eang iawn ac yn hynod o addas i ddysgwyr oherwydd ei arddull hawdd, ddiymdrech, sy'n adlewyrchiad o wir dalent Bethan fel awdur.
Mae yn y nofel gyfeiriadau modern a deallus tuag at hiliaeth y medrwn ni i gyd uniaethu â hwy, ac mae yna sawl foeswers yn ogystal. Mae gweld bywyd trwy lygaid y ci, yn enwedig y disgrifiad “dwygoes”, wedi gwneud i mi fod yn fwy ystyriol wrth weld cŵn pan af am dro.
Mae darlun o gylch bywyd bob yr un ohonom yn medru amrywio cymaint, ac yma yn sicr mae yna stori werth ei darllen. Mae gonestrwydd Mot yn annwyl a difyr iawn, a'i eiriau'n llawn doethineb: “... ond yn y bôn, rydan ni gwn yn tueddu i weld bywyd yn ddu a gwyn, yn caru ein ffrindiau a brathu’n gelynion os leciwch chi, ond mae pobl wastad yn gorfod gneud pethau’n gymhleth, yn cael trafferth caru mor llwyr â ni, ac yn cymysgu cariad ac atgasedd nes bod y du a’r gwyn wedi troi’n rhyw gawl llwyd, dryslyd.”
Yn sicr mae hon yn nofel gyfoes, ysgafn a llawn deallusrwydd. Mae'n werth ei phrynu!
~Tegwen Morris @ www.gwales.com
Related Books
Please note that ePub files can now be opened on Kindle.
This website uses cookies. By continuing to use this website you are giving consent to cookies being used. For more information on how you can disable them, visit our Privacy and Cookie Policy.
Strictly Necessary Cookies
Strictly Necessary Cookie should be enabled at all times so that we can save your preferences for cookie settings.
If you disable this cookie, we will not be able to save your preferences. This means that every time you visit this website you will need to enable or disable cookies again.