This is the final title in the MELANAI trilogy. After they escape to the Dark Desolation so that Efa, on her 16th birthday, does not have to kill her mother, the queen, she and her friends have now reached Edenia where they come across another tribe. What sort of welcome will they receive there and what will happen to Efa?
Dyma'r nofel olaf yn nhrioleg Y MELANAI am Efa a'i chriw. Ar ol iddyn nhw ddianc i'r Diffeithwch Du rhag i Efa orfod lladd ei mam, y frenhines, ar ei phen-blwydd yn 16 oed, maen nhw bellach wedi cyrraedd tir Edenia lle maen nhw'n dod o hyd i lwyth arall o bobl. Pa fath o groeso gawn nhw yno a beth fydd yn digwydd i Efa ar ddiwedd y drioleg?
~Publisher: Y Lolfa
Y drydedd nofel a’r nofel olaf yn nhrioleg anturus Y Melania o waith Bethan Gwanas yw Edenia, nofel sy’n dangos dychymyg, hiwmor a dawn dweud yr awdur ar eu gorau unwaith eto. Ond wrth gyfeirio at drioleg, mae’n siŵr mai’r cwestiwn cyntaf ar dafodau’r rhan fwyaf o ddarllenwyr yw – a oes angen bod wedi darllen y ddwy nofel arall sy’n rhagflaenu’r nofel hon, sef Efa ac Y Diffeithwch Du, er mwyn gallu ei mwynhau? Wel, a bod yn onest, gan fod yr awdur yn llwyddo i wau cymaint o linyn stori’r nofelau eraill i mewn i gynnwys y nofel ddiweddaraf hon, fe ellid gafael yn Edenia a dilyn helyntion Efa a’i chriw ffrindiau ar eu hantur ddiweddaraf yn ddigon hwylus heb wneud hynny. Mae’r ffaith fod yna fap a rhestr cymeriadau ar ddechrau’r nofel hefyd o fantais er mwyn gallu atgoffa’r darllenydd o beth yw beth a phwy yw pwy.
Beth, felly, yw sail y nofel hon? Stori o ddwy hanner yw hi mewn gwirionedd, gyda’r hanner cyntaf yn disgrifio’r modd y mae Efa, cyn-dywysoges Melania, a’r criw ffrindiau a adawodd ei theyrnas gyda hi wedi iddi wrthod lladd ei mam i hawlio’i choron fel brenhines – heb anghofio Id y cawr y daethon nhw ar ei draws wrth groesi tir peryglus y Diffeithwch Du – yn cyrraedd diogelwch Edenia. Yno, maen nhw’n cyfarfod ag eraill sydd wedi dianc o deyrnas Melania, gan gynnwys Alenian, disgynnydd i’r Frenhines Dani, un arall, fel Efa, a wrthododd ladd ei mam – sy’n eu croesawu ac yn gwneud eu gorau i’w helpu, er gwaethaf rhai amheuon.
Mae ail hanner y nofel wedyn yn gweld Efa, Id a chriw ffrindiau o Felania ac Edenia’n mynd ar daith anturus arall, sy’n eu harwain yn y pen draw yn ôl i deyrnas Felania, gan gwblhau cylch y drioleg. Ond wna i ddim datgelu diwedd y stori!
Ochr yn ochr â dyfeisgarwch arbennig yr awdur wrth greu byd dychmygol hynod effeithiol a real, mae’r nofel hefyd yn ymdrin â nifer o themâu perthnasol iawn o safbwynt sefyllfa ein cymdeithas ni heddiw. Un o’r rhai amlycaf yw ein perthynas ag eraill, yn enwedig â dieithriaid neu estroniaid. Ein tuedd fel arfer yw glynu’n rhy dynn wrth ragdybiaethau a syniadau a blannwyd yn ein meddyliau gan gymdeithas. Mae’r nofel yn annog herio’r fath ragdybiaethau, bod yn ddewr a phenderfynu drosom ni ein hunain wrth ymwneud ag eraill. Dengys hefyd mai trwy gydweithio y mae llwyddo.
I’r rhai sydd wedi darllen y ddwy nofel gyntaf yn y drioleg, mae darllen Edenia yn angenrheidiol er mwyn cau pen y mwdwl ar helyntion Efa a’i chriw. I unrhyw un arall, chewch chi mo’ch siomi o ddarllen y nofel hon, felly ewch amdani!
~Sioned Lleinau @ www.gwales.com
Related Books
Please note that ePub files can now be opened on Kindle.
This website uses cookies. By continuing to use this website you are giving consent to cookies being used. For more information on how you can disable them, visit our Privacy and Cookie Policy.
Strictly Necessary Cookies
Strictly Necessary Cookie should be enabled at all times so that we can save your preferences for cookie settings.
If you disable this cookie, we will not be able to save your preferences. This means that every time you visit this website you will need to enable or disable cookies again.