A contemporary novel for young people by a popular novelist relating the frictions and friendships, failures and successes of a mottley crew of GCSE students as they learn to co-operate on an open-air adventure course. Reprint; first published in 2000.
Yn y nofel hon dilynwn hynt a helynt criw o bobl ifanc, sydd newydd sefyll eu harholiadau TGAU, tra maent ar gwrs tridiau mewn canolfan awyr agored. Llion Jones, neu Llinyn Trôns, sy'n adrodd yr hanes a thrwyddo ef y down i adnabod y prif gymeriadau sef Gwenan, Olwen, Nobi, Gags, Dei a Donna eu hyfforddwraig. Er mwyn adeiladu cymeriad rhaid iddynt ddysgu cydweithio a dibynnu ar ei gilydd er mwyn cyflawni tasgau arbennig dringo, canŵio, abseilio ac ati. Mae hyn yn profi'n anodd iawn ar brydiau, yn arbennig i Llion a oedd, yn yr ysgol, yn fachgen distaw a hoffai ei gwmni ei hun ac a gâi ei fwlio gan Nobi a Gags. Ond mae'r tridiau yn agoriad llygad iddo ac mae'n dysgu llawer amdano'i hun ac am bobl eraill hefyd.
Stori fodern sydd yma gyda chymeriadau byw, crwn, wedi'u darlunio'n effeithiol. Mae'r nofel yn llifo'n gyflym o un dasg i'r llall, gan roi inni stori afaelgar mewn iaith raenus. Er y gallai'r problemau (personol yn ogystal â phroblemau'r tasgau) fod braidd yn drwm i'r darllenydd, nid felly o gwbl yma. Mae'r cyfan yn ddoniol ac ysgafn, hyd yn oed y digwyddiadau difrifol. Ond mae'r diweddglo yn eithaf annisgwyl.
Yn sicr mae yma stori 'bril' ar gyfer darllenwyr yn eu harddegau, yn arbennig felly bechgyn.
Enillodd Wobr Tir na n-Og 2001 am y Ffuglen Gymraeg orau.
~Rhiannon Clifford Jones @ www.gwales.com
Related Books
Please note that ePub files can now be opened on Kindle.
This website uses cookies. By continuing to use this website you are giving consent to cookies being used. For more information on how you can disable them, visit our Privacy and Cookie Policy.
Strictly Necessary Cookies
Strictly Necessary Cookie should be enabled at all times so that we can save your preferences for cookie settings.
If you disable this cookie, we will not be able to save your preferences. This means that every time you visit this website you will need to enable or disable cookies again.