A book for Welsh learners, Foundation Level, being an original novel by Bethan Gwanas. Dafydd sleepwalks, and awakes one morning covered in blood. He follows bloody footprints out of the house and through the village to find Mrs Roberts at the roadside after a hit-and-run case. Who has hit her and will the police arrest the culprit?
Nofel ar gyfer dysgwyr lefel Sylfaen yw hon, sy'n rhan o'r gyfres newydd Amdani ar gyfer oedolion sy'n dysgu Cymraeg. Mae nifer o lyfrau yn y gyfres wedi eu cyhoeddi gyda mwy ar y gweill, ac maen nhw wedi eu graddoli ar bedair lefel, sef Mynediad, Sylfaen, Canolradd ac Uwch, i gyd-fynd â’r cyrsiau dysgu Cymraeg cenedlaethol newydd.
Ro'n i'n edrych ymlaen at ddarllen Yn Ei Gwsg gan i mi fwynhau darllen y gyfres o nofelau Blodwen Jones gan Bethan Gwanas pan o'n i'n gwneud lefel Sylfaen – nofelau doniol, bywiog a hawdd i'w darllen gyda geirfa Cymraeg/Saesneg ar waelod pob tudalen. Ro'n nhw'n wych o ran adolygu patrymau a geirfa, dysgu geirfa newydd ac, yn bwysicach fyth, o ran darllen am fywyd bob dydd mewn iaith eitha syml a dealladwy.
Ceir yr un peth gyda'r nofel hon. Mae'n ddoniol, bywiog a hawdd ei darllen. Mae'r stori am ddyn o'r enw Dafydd sy'n cerdded yn ei gwsg, a'i gi Wmffra sy ddim yn cerdded yn ei gwsg. Un bore, mae Dafydd yn deffro ac yn cael sioc ofnadwy – mae gwaed dros y lle i gyd, gan gynnwys drosto fe'i hun. Er mwyn trio deall beth ddigwyddodd mae e'n dilyn olion traed gwaedlyd allan o'i dŷ a thrwy'r pentref. Mae e'n dod o hyd i'w gymydog Mrs Roberts a'i ffrâm gerdded ar ochr y ffordd. Mae'n ymddangos, yn ôl pob tebyg, ei bod hi wedi'i tharo gan gar. Dyw Dafydd ddim yn gwybod beth yn union ddigwyddodd, felly mae e'n mynd ati, gyda help gan Wmffra, i drio datrys y dirgelwch. Wnaeth Dafydd rywbeth ofnadwy yn ei gwsg? Dy'n ni'n clywed am gwpl o bethau mae e wedi eu gwneud yn ei gwsg yn y gorffennol, ond beth ddigwyddodd y tro yma? Ddaw e o hyd i'r ateb?
Mae'r nofel yn symud ymlaen yn gyflym wrth i Dafydd geisio datrys y dirgelwch. Mewn ffordd ysgafn, ond gyda sensitifrwydd, mae'r nofel yn delio â themâu megis perthynas, cyfeillgarwch, cariad, teyrngarwch, unigrwydd a cholled. Mae'r penodau'n fyr ac mae tro yn y gynffon ar ddiwedd y llyfr (nid cynffon Wmffra, dw i'n prysuro i'w ychwanegu!).
Yn ogystal â geirfa Cymraeg/Saesneg ar waelod pob tudalen mae rhestr eirfa Cymraeg/Saesneg yng nghefn y llyfr hefyd, ac mae'r nofel wedi'i darlunio gan Huw Aaron.
I grynhoi, dyma lyfr gwych ar gyfer dysgwyr lefel Sylfaen ond byddwn i'n argymell y dylai dysgwyr ar lefelau uwch ddarllen y nofel er mwyn adolygu patrymau a geirfa, mwynhau'r stori – a chefnogi'r diwydiant cyhoeddi ar gyfer dysgwyr Cymraeg. Dw i'n edrych ymlaen at ddarllen gweddill y llyfrau yn y gyfres!
~Matt Spry @ www.gwales.com
Related Books
Please note that ePub files can now be opened on Kindle.
This website uses cookies. By continuing to use this website you are giving consent to cookies being used. For more information on how you can disable them, visit our Privacy and Cookie Policy.
Strictly Necessary Cookies
Strictly Necessary Cookie should be enabled at all times so that we can save your preferences for cookie settings.
If you disable this cookie, we will not be able to save your preferences. This means that every time you visit this website you will need to enable or disable cookies again.