A lovely collection of bedtime stories based on the popular Radio Cymru 'Tic Toc' series.
Mae agor clawr y llyfr lliwgar hwn a theithio o dudalen i dudalen fel gwibdaith trwy gartŵn ac yn berffaith i ddeffro dychymyg plant ifanc cyn iddynt fynd i gysgu. Mae llu o awduron poblogaidd wedi cyfrannu at y casgliad. Mae Anni Llŷn yn mynd â ni i fyd yr Wmffifflwffs, Caryl Parry Jones yn gwneud i ni ddotio unwaith eto ar Cyw a'i ffrindiau, Casia Wiliam yn cyflwyno Ben Dant, a gwych yw cael nifer o’r cymeriadau poblogaidd hyn ar silff ystafell wely plentyn bach yn ogystal ag ar y sgrin deledu.
Pwy a wyddai fod poteli salad crîm yn gallu siarad? Bod yr Wmffifflwffs wrth eu boddau gyda chân fach? Bod coblynnod cas yn gallu gwneud i liwiau ddiflannu? Mae’r gyfrol annwyl hon yn llawn dop a rhyfeddodau, cyfrinachau, creaduriaid o bob lliw a llun, heb son am y darluniau di-ri. Mae pob cymeriad yn hynod o hoffus ac yn siŵr o godi gwên ar wynebau bechgyn a merched bach Cymru, boed hynny yn ystod amser stori yn yr ysgol neu cyn mynd i’r gwely.
Neidiwch i ganol y byd hwn o hud a hapususrwydd. Hwrê, mae’n amser stori!
~Llinos Griffin @ www.gwales.com
Related Books
Please note that ePub files can now be opened on Kindle.
This website uses cookies. By continuing to use this website you are giving consent to cookies being used. For more information on how you can disable them, visit our Privacy and Cookie Policy.
Strictly Necessary Cookies
Strictly Necessary Cookie should be enabled at all times so that we can save your preferences for cookie settings.
If you disable this cookie, we will not be able to save your preferences. This means that every time you visit this website you will need to enable or disable cookies again.