Eight stories for Foundation Level Welsh Learners by some of Wales' best storytellers, including Bethan Gwanas, Guto Dafydd, Mared Lewis and Lois Arnold. In cooperation with the Welsh National Eisteddfod, the stories will be published in August, with the authors reading the stories (with subtitles) on various digital platforms.
Wyth stori ar gyfer Dysgwyr Cymraeg Lefel Sylfaen gan rai o awduron gorau Cymru, yn cynnwys Bethan Gwanas, Guto Dafydd, Mared Lewis a Lois Arnold. Mewn cydweithrediad ag Eisteddfod Genedlaethol Cymru, bydd y straeon yn cael eu cyhoeddi ar gyfer dechrau Awst a bydd yr awduron yn darllen eu straeon (gydag isdeitlau) ar blatfformau digidol amrywiol.
~Publisher: Y Lolfa
Rhwng cloriau Ffenest a straeon eraill i ddysgwyr, mi ddowch chi o hyd i straeon sy’n codi chwilfrydedd, yn cyffwrdd â’r galon, yn gwneud i chi feddwl ac i chwerthin. Mi gewch chi ddarllen straeon sy’n annwyl iawn, straeon sy’n edrych ar y berthynas rhwng pobl, rhai sy’n gofyn cwestiynau am gymdeithas heddiw a rhai sy’n ddigon i godi ofn ar rywun. Mae rhai ohonyn nhw wedi eu gosod yn ystod cyfnod pandemig y coronafeirws a chyfnod clo, felly mae stamp pendant iawn y flwyddyn 2020 a chyd-destun cymdeithasol ehangach i’w teimlo ar ambell stori. Ond mae un peth sy’n gyffredin rhyngddyn nhw; mae’r awduron wedi ysgrifennu straeon ar gyfer oedolion sy’n dysgu Cymraeg, gan siarad mewn iaith sy’n addas iddyn nhw, ond heb fod yn nawddoglyd.
Yn rhan o gyfres Amdani, ar y cyd â’r Eisteddfod Genedlaethol, cyhoeddwyd y gyfrol hon yn haf 2020. Fel rhan o Ŵyl Amgen, roedd yr awduron yn darllen eu straeon, ac ar adeg ysgrifennu’r adolygiad yma mae’r fideos i’w gweld ar-lein os ewch chi i chwilota. Mae’r gyfrol yn addas i ddysgwyr lefel Sylfaen ac ar waelod pob tudalen ceir geirfa briodol. Mae gofyn i’r dysgwyr fod yn eitha’ hyderus yn eu geirfa, patrymau a strwythurau’r Gymraeg, ond yn sicr mae’r rhain yn straeon gwych i gyflwyno llenyddiaeth Gymraeg i’n siaradwyr newydd ni. Mae amrywiaeth o acenion yn y gwahanol straeon hefyd, felly mae’n addas i ddysgwyr sy’n dilyn cyrsiau iaith y Gogledd neu’r De.
Er na lwyddodd pob stori i daro deuddeg efo fi (peth felly ydy chwaeth bersonol, mae’n debyg), rydw i’n hoff iawn o’r gyfrol yn ei chyfanrwydd. Fy hoff straeon i ydy 'Ffenest' gan Guto Dafydd, 'Calon wrth Galon' gan Meleri Wyn James, 'Hen Ffôn fy Nain' gan Mared Lewis ac 'Ar y Bws' gan Bethan Gwanas. Dyma’r straeon wnaeth ‘siarad efo fi’ a chyffwrdd. Dwi’n siŵr y bydd gan ddarllenwyr eraill eu ffefrynnau eu hunain.
Fel tiwtor Cymraeg, mae dod o hyd i ddeunydd darllen diddorol ac amrywiol yn uchel iawn ar fy rhestr o flaenoriaethau wrth gefnogi dysgwyr. Rwy’n hoff o’r gyfrol yma am ei bod hi’n trafod ystod eang o bynciau sy’n mynd i apelio at amrywiaeth o ddysgwyr mewn iaith a phatrymau iaith sy’n gyfarwydd iddyn nhw. Mae gan bob dysgwr ei chwaeth bersonol ei hunan, wrth gwrs, ond mi faswn ni’n argymell hon fel cyfrol addas i gyflwyno gwaith rhai o awduron Cymraeg mwyaf blaenllaw a phoblogaidd Cymru iddyn nhw.
~Mererid Haf Roberts @ www.gwales.com
Related Books
Please note that ePub files can now be opened on Kindle.
This website uses cookies. By continuing to use this website you are giving consent to cookies being used. For more information on how you can disable them, visit our Privacy and Cookie Policy.
Strictly Necessary Cookies
Strictly Necessary Cookie should be enabled at all times so that we can save your preferences for cookie settings.
If you disable this cookie, we will not be able to save your preferences. This means that every time you visit this website you will need to enable or disable cookies again.