A volume of short stories, all on the theme of Christmas. Each author has followed a different route which has resulted in a book full of variety, humour, sadness and pathos. The authors are Sian Northey, Meg Elis, Jon Gower, Gwen Parrott, Mared Lewis, Mari Elin Jones, Bethan Jones Parry, Menna Medi, Gareth Evans Jones and Ioan Kidd. Ideal reading for the Christmas holiday!
Braf yw cael cyfrol o straeon byrion Nadoligaidd eu naws yn oes y gemau fideo a’r ffilmiau teledu – rhai straeon da, hefyd, gan rai o’n storïwyr amlycaf. Dydyn nhw ddim i gyd yn straeon bodlon braf; mae sawl un sy’n eitha trist, neu’n hytrach ceir ambell stori yn y gyfrol sy’n eich ysgogi i oedi am funud i feddwl. A da hynny, yng nghanol rhialtwch a phrysurdeb digwyddiad sy’n fwy o loddest nag o ddathliad Cristnogol.
Wrth ddarllen y gyfrol, mae teimlad fod yma ŵyl sy’n mynd yn fwrn, gyda'r un arferion flwyddyn ar ôl blwyddyn. Ac yna daw rhyw ddigwyddiad sydyn sy’n troi pethau ben i waered ac yn ailgynnau gwên a dod â newydd-deb i’r ystrydebau blinedig.
Mae gan Jon Gower stori arbennig o dda, ‘Aeron ffres ar gelyn Awst’. Bu Mattie Hughes yn dioddef o ganser ers degawd, ond bob blwyddyn deuai’r Nadolig ag ysbryd newydd iddi, ac os medrai hi ddathlu'r Nadolig, fe fyddai'n siŵr o weld y gwanwyn. Dyna’i ffydd a’i sicrwydd. Ond tro hwn roedd hi wedi cyrraedd y pen y daith, a hynny yng nghanol Awst, felly dyma’r plant yn trefnu dydd Nadolig iddi bryd hynny – y trimins i gyd, gan gynnwys llogi peiriant gwneud plu eira.
Mae pethau’n mynd yn dda, yn anesboniadwy o dda, ac mae hon yn stori gydag elfen sy’n gyrru rhyw ias fach drwy ganol y llawenydd.
Hoffais y tro yng nghynffon stori Gareth Evans Jones am Siôn Corn, wedi iddo wneud diwrnod da o waith yn dosbarthu anrhegion, yn cael ei anrheg ei hun – o’r banc bwyd! Hoffais, hefyd, sgrifennu ardderchog Mared Lewis, 'Dolig Gwyn', am y ferch a’i brawd bach yn chwilio am eu tad, yn y gobaith o dreulio’r Nadolig yn ei gwmni.
Adeg anodd yw’r Nadolig yn fynych. Er ei bod yn adeg i’r teulu ddod ynghyd i fwynhau’n cwmni ein gilydd nid yw hynny’n bosib bob amser, gyda’r plant ar wasgar. Cewch sgwrs drwy gyfrwng Skype ar ddydd Nadolig gyda'r rhai y buasech chi’n dymuno bod yn eu cwmni, a gorfod dioddef cwmni'r rhai y buasech yn hapusach o beidio’u gweld. Felly mae hi yn 'Geiriau Croes' gan Ioan Kidd.
Difyr iawn, hefyd, yw stori Menna Medi, 'Y Gwynt yn Fain', am y ddynes sengl yn mwynhau’i bywyd annibynnol a’i gyrfa a’i gwyliau sgio Nadolig yn Awstria. Cewch fod yn hunanol ac arwynebol, ond mae pris i’w dalu yn y diwedd.
A hoffais stori annwyl Mari Elin Jones, 'Cracers cariad', am y dyn swil yn y ffatri gwneud cracers.
Yr awduron eraill yw Sian Northey, Meg Elis, Gwen Parrott a Bethan Jones Parry.
~Gwyn Griffiths @ www.gwales.com
Related Books
Please note that ePub files can now be opened on Kindle.
This website uses cookies. By continuing to use this website you are giving consent to cookies being used. For more information on how you can disable them, visit our Privacy and Cookie Policy.
Strictly Necessary Cookies
Strictly Necessary Cookie should be enabled at all times so that we can save your preferences for cookie settings.
If you disable this cookie, we will not be able to save your preferences. This means that every time you visit this website you will need to enable or disable cookies again.