Guto Dafydd's debut novel for adults. Following his father's illness, Theo returns to the Llŷn peninsula where he was brought up, bringing numerous changes to his life after an avaricious and greedy city life. A witty novel dealing with themes of conflict, identity and inheritance, with many twists and turns along the way.
Mae thema’r mab afradlon mor hen â phechod, ond eto i gyd yn fythol newydd. Cafwyd amrywiadau ar y stori fel sail i lenyddiaeth a barddoniaeth ar hyd y canrifoedd. A dyma a geir yn y nofel hon mewn arddull gyfoes sydd mor ddarllenadwy â fersiwn William Morgan ei hun.
Yma, Llundain yw’r wlad bell a Theo yw’r mab afradlon. Nid yr afradlonaf o afradloniaid yw Theo, ond mae’n gweithio yn y Ddinas, byd yr arian mawr. Ac i hen sosialydd fel fi, mae hynny’n ddigon i’w gynnwys ymhlith rhengoedd yr afradloniaid.
Daeth y nofel hon yn agos iawn at gipio Medal Ryddiaith Prifwyl Sir Gâr 2014, a hawdd deall pam. Mae’r arddull yn llifo ac mae yma droadau annisgwyl ynghyd â haenau o ystyron. Cawn dristwch a llawenydd, dychan ac alegori ochr yn ochr. Cymerwch enw’r prif gymeriad, er enghraifft, Theo. A yw’n adleisio Theomemphus Pantycelyn? Onid mab afradlon a drodd yn ôl yw hwnnw hefyd?
Fel yn y ddameg, y tad sy’n galw’r mab yn ôl i’w hen gartref, Cefn Mathedrig, plasty hynafol ym Mhen Llŷn. Ond yn yr achos hwn, salwch olaf y tad yw’r symbyliad. Yno mae merch, Gaia, yn gweddnewid ei fywyd a’i agwedd at fywyd, a cheir yma hefyd ddyn sy'n darganfod rhywbeth eneidiol ac yn pendroni a ddylai aros.
Tuedd awduron a beirdd sy’n mabwysiadu thema oesol yw mynd yn orsentimental. Nid yma. Mae gan Theo resymau ymarferol dros aros yn nhŷ ei dad. Mae am sefydlu busnes, a hwnnw’n fusnes blaengar a chyfoes.
Mae hon yn nofel y mae’n werth mynd yn ôl ati dro ar ôl tro. Mae yma gymaint o haenau, cymaint o gyffelybiaethau, cymaint o ddychan, cymaint o hiwmor. Ond mae’r cyfan yn digwydd yn naturiol heb unrhyw ymgais at glyfrwch geiriol na syniadol.
O'i hailddarllen daw adleisiau eraill i’r meddwl. Nid y mab afradlon yn unig sydd yma; cawn adlais hefyd o daith y pererin. Gwelwn yn Theo yn ogystal adlais o hanesion mab y plas, nodwedd y tynnwyd sylw ati gan Manon Rhys yn ei beirniadaeth.
A pheidiwch â disgwyl diweddglo bach boddhaus a thwt. Dydi bywyd go iawn ddim yn digwydd felly. Dim ond stori dylwyth teg sy’n gorffen yn gwbl hapus. Ac nid stori dylwyth teg na dameg mo hon.
~Lyn Ebenezer @ www.gwales.com
Related Books
Please note that ePub files can now be opened on Kindle.
This website uses cookies. By continuing to use this website you are giving consent to cookies being used. For more information on how you can disable them, visit our Privacy and Cookie Policy.
Strictly Necessary Cookies
Strictly Necessary Cookie should be enabled at all times so that we can save your preferences for cookie settings.
If you disable this cookie, we will not be able to save your preferences. This means that every time you visit this website you will need to enable or disable cookies again.