The Prize-winning volume of the Daniel Owen Memorial Prize at the Conwy County 2019 National Eisteddfod of Wales. An honest, clever and scathing novel comprising penetrating comments on the human nature.
Cyfrol arobryn Gwobr Goffa Daniel Owen Eisteddfod Genedlaethol Sir Conwy 2019. 'Mae'n nofel onest, yn glyfar, yn ddeifiol'... 'A dyna fawredd y nofel: sylwadau craff am y natur ddynol, am ddyheadau, disgwyliadau, ofnau, am ein stad fydol, fregus.' (Haf Llewelyn)
~Publisher: Y Lolfa
I rai cannoedd o Instagramwyr, dydy hi ddim yn gyfrinach fod Guto Dafydd yn mwynhau carafanio. Wynebau Guto a’i deulu sydd yn y meddwl felly wrth ddarllen am Dadi, Mami, Fflei a Cena a’u hwythnos mewn carafán yng ngogledd Lloegr; fel y gwnaeth gyda’i nofel ddiwethaf, Ymbelydredd, mae wedi tynnu’n helaeth ar ei brofiad ei hun wrth ysgrifennu Carafanio, enillydd Gwobr Goffa Daniel Owen eleni.
Yr hyn sy’n wahanol y tro hwn yw nad oes edefyn stori ychwanegol wedi’i himpio ar fyfyrdodau Dadi – dim ond wythnos gyda’r teulu a’u carafán tra bo cegin yn cael ei gosod yn eu cartref. O’r disgrifiad syml hwn, dyw hi ddim yn argoeli’n addawol fel nofel ag iddi ‘linyn storïol cryf’, fel sy’n ofynnol yng nghystadleuaeth Daniel Owen, ond camp y gyfrol yw ei bod yn cadw diddordeb ac er nad oes fawr ddim byd yn digwydd, dyna’r pwynt i raddau helaeth.
Ffrâm yw’r gwyliau sy’n cynnig digon o sbardunau i Dadi gyflwyno ei fyfyrdodau ar wahanol bethau, rhai’n syml a ffwrdd-â-hi ac eraill yn fwy dwys; cofnodi’r di-nod a’i wneud yn ddifyr, boed yn ymweliad ag IKEA neu’n fyfyrdod ar natur Prydeindod. Mae’r disgrifiad cryno o un hen garafán ‘o oes y pyrm a’r pelmet’ yn creu darlun o’i berchnogion yn ogystal â’r cerbyd, a digon crafog yw’r portread o garafanwyr yr Eisteddfod, fydd yn siŵr o beri anesmwythyd i sawl darllenydd.
Fel ar unrhyw wyliau teuluol, yn amlwg y plant bach sy’n tra-arglwyddiaethu ac yn llywio cyfeiriad y gweithgareddau. Ac nid dyma’r plantos hawsaf eu trin – y bachgen bach dwyflwydd sydd wrth ei fodd yn ‘helpu’ Dadi gyda thasgau fel nôl dŵr neu wagio’r toiled, a’i chwaer deirblwydd sy’n ‘”golffi” gwallt ei brawd â iogwrt’ ac sy’n mynnu mai Fflei a Cena (o Patrôl Pawennau) yw enwau’r ddau. Dyw’r darlun o Mami ddim mor glir; yn y cefndir mae hi, yn anfon Dadi a’r plant allan i chwarae tra’i bod yn glanhau, neu’n ymlacio gyda’i gwau. Hoffwn fod wedi clywed mwy amdani hi, ond cyfrol Dadi yw hon, darlun o ddyn ifanc sy’n magu teulu a’r ffordd mae’n synied am y byd a’i le yntau yn y byd hwnnw.
Carafanio, dywed Dadi, yw ‘derbyn nad yw bywyd mor gyffrous â’r disgwyl.’ Gyda hiwmor ffraeth a digon o ddeunydd meddwl yn britho’r gyfrol, efallai nad oes yma gyffro, ond mae digonedd o ddifyrrwch. Ac ar ôl cael blas ar eu cwmni, gobeithio y cawn gwrdd â Dadi, ‘Pobun’ ein hoes, a’r teulu eto ymhen rhyw ddeng mlynedd i rannu rhagor o brofiadau bywyd mewn byd fydd yn wahanol iawn – rwy’n edrych ymlaen yn barod.
~Catrin Beard @ www.gwales.com
Related Books
Please note that ePub files can now be opened on Kindle.
This website uses cookies. By continuing to use this website you are giving consent to cookies being used. For more information on how you can disable them, visit our Privacy and Cookie Policy.
Strictly Necessary Cookies
Strictly Necessary Cookie should be enabled at all times so that we can save your preferences for cookie settings.
If you disable this cookie, we will not be able to save your preferences. This means that every time you visit this website you will need to enable or disable cookies again.