What happens when a young man from a small town in Gwynedd has to spend six weeks in Manchester for a course of radiotherapy? This novel portrays life through the eyes of patient number 24609-3740. Winner of the Daniel Owen Prize at the 2016 National Eisteddfod.
Fel arfer, yn yr wythnosau sy’n dilyn yr Eisteddfod Genedlaethol, mae gan y darllenydd ryw syniad o’r hyn y gall ei ddisgwyl o’r ddwy gyfrol ryddiaith fydd wedi gwerthu orau yn ystod yr ŵyl – nofel ac iddi ‘linyn storïol cryf’ yng nghyfrol Gwobr Goffa Daniel Owen, a gwaith ychydig yn fwy llenyddol neu arbrofol yng nghyfrol y Fedal Ryddiaith. Eleni, o wrando ar y beirniadaethau llwyfan, gallech feddwl fod y ddau enillydd wedi cyflwyno eu cyfrolau i’r gystadleuaeth anghywir – stori ddirgelwch yn ennill y Fedal, a chyfrol o ‘hunanffuglen’ arbrofol yn ennill y Daniel.
A bod yn onest, doeddwn i ddim yn cael fy nenu gan y gyfrol hon – ei henw, Ymbelydredd, ei thestun, sef gŵr ifanc yn derbyn radiotherapi, a’r clawr llwyd bygythiol a difrifol. Ond unwaith i mi fwrw iddi i’w darllen, roedd yn wledd amheuthun, yn stori, yn gyffes, yn fyfyrdod, ac yn hollbwysig, roedd yn fy nghymell i droi’r tudalennau.
Adroddir hanes gŵr ifanc o Ben Llŷn sy’n derbyn chwe wythnos o driniaeth ymbelydrol am diwmor, gan letya drwy’r wythnos ym Manceinion a chael y deng munud o driniaeth yn yr ysbyty bob dydd. Gyda chymaint o amser rhydd mae’n penderfynu dod i adnabod y ddinas a manteisio ar y cyfle i ymweld ag orielau, tafarnau a mannau nodedig Manceinion. Dyma gyfle i werthfawrogi a phrofi ei amgylchedd, ond hefyd mae’r ymweliadau’n sbarduno myfyrdodau ac atgofion am ei fywyd hyd yma, y math o fywyd mae’n ei fyw a’i syniadau a’i athroniaeth am bob math o bynciau. Mae perygl y gallai hyn arwain at gyfrol drom a difrifol, ond gydag arddull hamddenol ddeheuig a hiwmor ysgafn yn britho’r tudalennau, dyw’r darllen ddim yn feichus o gwbl.
Gyda sail y gyfrol yn deillio o brofiad personol yr awdur (bu Guto Dafydd yn derbyn yr union driniaeth yn ystod yr hydref y llynedd), yr hyn a geir yw math o hunangofiant. Mae’r prif gymeriad, na chawn wybod ei enw, dim ond ei rif ysbyty, wedi byw bywyd digon tebyg i Guto – magwraeth mewn pentref ym Mhen Llŷn, methu ymgartrefu ym mhrifysgol Rhydychen, priodi a chael plentyn, a myfyrdodau dyn ifanc o’r cefndir hwn sy’n agored ei feddwl ac sy’n awyddus i brofi’r byd a geir yn y nofel. Ond nid hunangofiant yw’r gyfrol chwaith; am iddo greu stori o gylch y cymeriad, ac yna galw’r gwaith yn hunanffuglen, wyddom ni ddim yn iawn pa elfennau sy’n wir. Oes ots? Wel nac oes, gan fod y cyfanwaith yn ddarlun o fywyd dyn ifanc digon tebyg i Guto, os nad Guto ei hun.
Ond beth am y ‘llinyn storïol cryf’? Hanes y driniaeth, a disgrifiadau o’r ffordd ofalus a manwl mae’r claf yn cael ei osod yn y man cywir i dderbyn y radiotherapi, a chymeriadau meddygol sy’n mynd a dod, gyda rhai’n ei weld fel corff a chlaf yn unig ond eraill yn ei drin yn fwy dynol – dyna sy’n ffurfio sgerbwd y gyfrol, gyda’r myfyrydodau’n deillio o’i ddyddiau’n crwydro’r ddinas. Ceir is-blot gyda chymeriadau digartref y ddinas, sy’n ychwanegu ychydig o gyffro, ond wn i ddim a yw’r rhannau hyn yn taro deuddeg i’r un graddau. Bu’n rhaid eu hychwanegu i fodloni gofynion cystadleuaeth Daniel Owen, ond gan fod gweddill y gyfrol yn teimlo mor realistig ac yn deillio o brofiadau dilys, mae’n gorwedd ychydig yn chwithig.
Camp Guto yw creu cyfrol feistrolgar, lle mae ei ddiddordebau a’i syniadau – o uchel ddiwylliant a chelfyddyd i gwis tafarn, o gân 'Talu Bils' gan Rodney i geir Range Rover, o Shakespeare i’w snog a’i sigarét gyntaf – yn difyrru ac yn cynnal diddordeb y darllenydd.
~Catrin Beard @ www.gwales.com
Related Books
Please note that ePub files can now be opened on Kindle.
This website uses cookies. By continuing to use this website you are giving consent to cookies being used. For more information on how you can disable them, visit our Privacy and Cookie Policy.
Strictly Necessary Cookies
Strictly Necessary Cookie should be enabled at all times so that we can save your preferences for cookie settings.
If you disable this cookie, we will not be able to save your preferences. This means that every time you visit this website you will need to enable or disable cookies again.