This is the last novel in the Pen Dafad series, aimed at 11-15 year-olds. Jac finds a dead body in the sand dunes and decides to help Jim, the detective, to solve the crime. Full of adventure, humour and ghastly discoveries!
Dyma'r nofel olaf yng Nghyfres Pen Dafad ar gyfer darllenwyr 11-15 oed. Mae Jac yn darganfod corff marw yn y twyni tywod ac yn benderfynol o fynd at wraidd y llofruddiaeth trwy helpu Jim, y ditectif. Nofel llawn antur, hiwmor ac erchylldra!
~Publisher: Y Lolfa
Wrth fynd ar daith gerdded gyda’r ysgol mae Jac yn darganfod corff. Fe gafodd Llywelyn Davies ei lofruddio, ond yn hytrach na dychryn mae Jac yn penderfynu datrys y dirgelwch. Ac mae e’n gwneud job mor dda ohoni nes achub y blaen ar yr heddlu ym mhob cam o’r ymchwiliad.
Drwy gydol y nofel mae yna rywbeth ychydig yn wahanol am Jac. Mae’n well ganddo ei gwmni ei hun, ac mae ganddo’r gallu i ganolbwyntio’n llwyr ar rywbeth gan anwybyddu pawb a phopeth arall. Ond yr elfen benderfynol, styfnig yma yw un o’r pethau sy’n hoffus amdano hefyd, ac mae arddull chwim y llyfr yn adlewyrchu ei ffordd o feddwl wrth i ni ei ddilyn drwy pob cam o’i ymchwiliad.
I mi, doedd pob digwyddiad yn y nofel ddim yn gwbl gredadwy. Mae Jac, er ei oedran, yn llwyddo i ymuno â thrip y Clwb Golff i Iwerddon, mae’n trefnu profiad gwaith gyda’r heddlu, ac yn llwyddo i sleifio i’r stafell lle mae’r ffeiliau am gyn-achosion yn cael eu cadw. Ond mae personoliaeth Jac yn cario’r dydd. Pwy arall fyddai’n meiddio bygwth heddwas er mwyn cael gwybod mwy am yr achos?
Jac sydd, yn y pen draw, yn darganfod llofrudd Llywelyn Davies, ond gan wneud hynny mewn diweddglo cwbl annisgwyl ac ysgytwol sy’n troi ei fywyd wyneb i waered.
~Cerian Arianrhod @ www.gwales.com
Related Books
Please note that ePub files can now be opened on Kindle.
This website uses cookies. By continuing to use this website you are giving consent to cookies being used. For more information on how you can disable them, visit our Privacy and Cookie Policy.
Strictly Necessary Cookies
Strictly Necessary Cookie should be enabled at all times so that we can save your preferences for cookie settings.
If you disable this cookie, we will not be able to save your preferences. This means that every time you visit this website you will need to enable or disable cookies again.