An exciting novel offering up another challenge to detective Noel Bain, when he has to deal with narcotics addicts.
An exciting novel offering up another challenge to detective Noel Bain.
~Publisher: Y Lolfa
Mae'r nofel dditectif wastad wedi ennyn diddordeb pobl o bob oed, ac mae’r nifer hynny sydd yn gwylio’r rhaglen Crimewatch yn dangos yn glir y diddordeb mawr sydd gan y cyhoedd mewn troseddau difrifol, yn enwedig llofruddiaethau.
Mae Lyn Ebenezer yn awdur profiadol ym myd troseddau difrifol, ac wrth ddarllen y gyfrol hon mae Lyn yn fy rhyfeddu – nid yn unig oherwydd ei ddychymyg byw ond hefyd oherwydd ei wybodaeth drylwyr o ddulliau'r heddlu o weithredu, a hyd yn oed waith patholegydd mewn archwiliad postmortem.
Nofel dditectif yw Si Sô Jac y Do gyda'r troseddau yn cael eu lleoli yn Aberystwyth. Mae’r awdur yn adlewyrchu bywyd cyfoes trefi Cymru lle mae defnyddio cyffuriau anghyfreithlon wedi dod yn rhan o fywyd bob dydd. Fe’n harweinir ni at fywyd ‘drygis’ y dref a chawn gipolwg ar y problemau sy’n wynebu’r heddlu wrth iddynt ymchwilio i ddwy lofruddiaeth.
Cawn ddarlun clir o'r gŵr ifanc yn ei ‘grys denim a’i jîns tyllog’, heb geiniog yn ei boced. Mae hi'n hwyr yn y nos ac yntau’n gwbl ddibynnol ar y cyffur heroin. Pwy yw’r ‘samaritan’ a roddodd chwistrell o gyffur yn rhad ac am ddim iddo, cyffur sydd yn cael ei werthu am bris uchel ar y stryd? Dyma ddirgelwch cyntaf y nofel.
Y tu ôl i’r rhai sy’n ddibynnol ar heroin mae barwniaid mawr byd y cyffuriau, y rhai sy’n cyflogi eraill i wneud y gwaith brwnt o werthu’r cyffuriau mewn clybiau nos, ac mae’r awdur wedi llwyddo i gyflwyno’r cymeriadau yn fyw iawn yn y gyfrol. Weithiau, mae yna berygl drysu pan fo enwau cymeriadau yn rhy debyg i’w gilydd, er enghraifft, Prosser a Porter.
Mae rhwyd yr heddlu'n tynhau ac mae’r barwn yn erlid un o’i weision o’r dref, a gwelir mor beryglus oedd gwaith y ‘gwas’ gan iddo gael ei hanner ei ladd ar y trên wrth geisio dianc.
Mae’r digwyddiadau wedi eu gweu i’w gilydd yn gelfydd ac mae’r nofel yn eich dal hyd y diwedd pan ddaw goleuni ar yr holl ddirgelwch. Nofel gwerth ei darllen yw hon ac un, rwy’n siŵr, fydd o ddiddordeb i lawer.
Y feirniadaeth orau y gall un ei rhoi ar unrhyw gyfrol yw ei fod yn ‘methu â’i rhoi i lawr’. Dyna’r union beth ddigwyddodd i mi wrth ddarllen y gyfrol hon.
~Roy Davies @ www.gwales.com
Related Books
Please note that ePub files can now be opened on Kindle.
This website uses cookies. By continuing to use this website you are giving consent to cookies being used. For more information on how you can disable them, visit our Privacy and Cookie Policy.
Strictly Necessary Cookies
Strictly Necessary Cookie should be enabled at all times so that we can save your preferences for cookie settings.
If you disable this cookie, we will not be able to save your preferences. This means that every time you visit this website you will need to enable or disable cookies again.