A volume of reminiscences by prominent and popular Welsh author and journalist, Lyn Ebenezer, comprising warm, skilled portrayals of the Pontrhydfendigaid characters of his childhood, together with the highly acclaimed tribute poem to his uncle who fell during the Great War.
Cyfrol o atgofion un o newyddiadurwyr ac awduron amlycaf Cymru, Lyn Ebenezer, yn cynnwys portreadau cynnes, crefftus o gymeriadau Pontrhydfendigaid ei blentyndod, ynghyd a'i bryddest i'w Wncwl Dai, a laddwyd yn y Rhyfel Mawr, pryddest a ddaeth yn agos at gipio'r goron yn Eisteddfod Genedlaethol Ynys Mon, 2017.
~Publisher: Y Lolfa
Mae gan Lyn Ebenezer glust a llygad sy'n cael eu denu gan y doniol a’r rhyfeddol, ynghyd â dawn anghymharol i’w darlunio mewn rhyddiaith sy’n fynych yn gain a phob amser yn uniongyrchol a darllenadwy. Y Meini Llafar yw ail gyfrol ei hunangofiant – cyhoeddodd y gyntaf, Cae Marged, chwarter canrif yn ôl a rhyngddynt sgrifennodd Cofion Cynnes, cyfrol am gymeriadau fu’n rhan o’i fywyd dros y blynyddoedd.
Hunangofiannol yw Y Meini Llafar, ar batrwm Cofion Cynnes, ac yma mae’n craffu ar yr enwau naddwyd gan y cenhedlaethau ar hen bont y pentref; rhai ohonynt yn enwau pobol y mae’n eu cofio, rhai y mae’r awdur yn dyfalu pwy oeddynt ac weithiau mae'r dyfalu’n mynd ag e i fyd ffantasi llwyr.
Dyna’r llythrennau WEJ. Mae Lyn yn rhoi hynt i’w feddwl grwydro a chofio W. E. Johns, crëwr y gyfres Biggles yr awyrennwr a gyflawnodd gampau yn y Rhyfel Mawr, yr Ail Ryfel Byd ac mewn awyren Hawker Hunter yn ddiweddarach, ynghyd â llawer o bethau eraill. Hwn oedd yr arch-Sais hirhoedlog. Rwyf innau cofio rhai o’r llyfrau, fel Biggles and the Cruise of the Condor. Wnaeth Johns na Biggles ddim Sais ohonof innau chwaith, ond fe wnaethant lawer i wella fy Saesneg ysgrifenedig cynnar, os nad fy ngallu i siarad yr iaith.
Ond yn ôl i’r bont a Phontrhydfendigaid. Mae’r enwau’n rhoi’r rhyddid i atgofion Lyn Ebenezer grwydro i weithdy Jac Defi Hopkins y crydd, lle trafodid pynciau’r dydd ac yr adroddid straeon ysbryd. Neu i grwydro’r eisteddfodau lleol lle roedd heclo’r arweinydd yn arferol. Dic Bach – cawr o fachan – yn mynd yn dreth ar amynedd yr arweinydd yn Eisteddfod y Groglith, Llanddewibrefi, a hwnnw’n galw am stiward i'w hebrwng o'r adeilad. Er syndod i bawb, â’r pechadur yn ufudd. Yna, wrth y drws dyma Dic yn troi, gafael yn y stiward a’i daflu allan i’r nos. “Dyna chi,” gwaeddodd ar yr arweinydd. “Ymlân â’r steddfod. Chewch chi ddim mwy o drwbwl ’da hwnna!”
Ron Davies, y ffotograffydd o Aberaeron, wedyn. Roedd Ron yn gaeth i gadair olwyn ers ei ugeiniau ond llwyddai i oresgyn pob anhawster. Pan gyrhaeddodd seremoni’r Coroni yn Eisteddfod Pantyfedwen roedd y cledd wedi’i weinio, y goron ar ben y bardd a’r Anthem yn cael ei chanu. “Diawch, Jacob, wnei di hynna ’to i fi gael llun?” gwaeddodd. A Jacob Davies yn ufudd yn coroni’r bardd am yr eildro. Fel’na roedd hi yn steddfode slawer dydd.
Mae yma lu o gymeriadau a straeon amdanynt, megis hanes John Isaac a aeth i Ffair Galan Gaeaf Aberystwyth ond ni ddychwelodd adre. Ddegawdau’n ddiweddarach cerddodd i mewn i’r Llew Coch. Yn ôl y sôn, aeth i drafferth gyda’r heddlu noson y ffair, bodiodd i Lerpwl a hwylio oddi yno ar long i Ganada lle gwnaeth ei ffortiwn! A dyna Guy Morgan, Wali Tomos tîm pêl-droed y Bont cyn bod sôn am Wali Tomos; y Gwyddelod fu’n gweithio ar gynllun dŵr Llynnoedd Teifi; Raymond Osborne Jones ... ac yn y blaen.
Llefarodd y meini â ni drwy gyfrwng cyfieithydd anghymharol. A diolch am ambell fflach o’r gorffennol pell. Faint sy’n deall y dywediad 'Lleuad Sypynno' heddiw? Mae’n siarad â mi, beth bynnag.
~Gwyn Griffiths @ www.gwales.com
Related Books
Please note that ePub files can now be opened on Kindle.
This website uses cookies. By continuing to use this website you are giving consent to cookies being used. For more information on how you can disable them, visit our Privacy and Cookie Policy.
Strictly Necessary Cookies
Strictly Necessary Cookie should be enabled at all times so that we can save your preferences for cookie settings.
If you disable this cookie, we will not be able to save your preferences. This means that every time you visit this website you will need to enable or disable cookies again.