The novel is located in Y Graig, a typical Welsh farm facing a critical period as the young generation seeks to plough its own furrow. A tension-filled novel which creates a powerful and honest picture of modern day rural Wales.
Nofel wedi'i lleoli ar fferm Y Graig - fferm nodweddiadol Gymreig sy'n wynebu argyfwng dilyniant wrth i'r genhedlaeth iau ddilyn eu cwys eu hunain. Chwip o gyfrol lawn tensiwn sy'n adleisio themau nofel Caryl Lewis, Martha, Jac a Sianco, gan greu darlun gonest a phwerus o gefn gwlad Cymru.
~Publisher: Y Lolfa
Caiff y llygad ei ddenu’n syth gan glawr trawiadol y nofel hon. Iona Jones a'i lluniodd, a hi hefyd hefyd fu'n gyfrifol am y darluniau yn Llwybrau, casgliad o gerddi gan yr awdures a gyhoeddwyd yn 2009.
Fferm yw'r Graig, a dyfodol y fferm sy’n sbarduno digwyddiadau'r nofel hon. Yn ogystal â dyfodol y Graig ei hun, gellir dadlau bod y nofel yn trafod dyfodol ffordd o fyw sydd yn prysur ddiflannu o gefn gwlad Cymru.
Mae bob pennod yn y llyfr yn dwyn enw un o’r cymeriadau, felly mae’r stori’n cael ei hadrodd o sawl persbectif. Ar un llaw, mae hon yn dechneg ddadlennol, sy’n dangos yn glir sut y mae digwyddiadau yn ymddangos yn wahanol i wahanol bobl, ond gall hefyd fynd yn feichus, gan ein bod yn profi nifer o ddigwyddiadau fwy nag unwaith wrth i’r nofel fynd rhagddi.
Mae cyfrinachau o’r gorffennol yn dod i anesmwytho aelodau teulu’r Graig, eu cymdogion a’u cydnabod. Effaith y cyfrinachau hyn, sy’n lledu fel y cylchoedd a grëir gan garreg wedi ei thaflu i'r dŵr, a geir yma. Mae’r cymeriadau yn hynod gredadwy, er bod rhai yn gymysgedd mwy boddhaol o’r da a’r drwg na’i gilydd. Mae’r iaith yn naturiol ac yn raenus ac yn adlewyrchu dywediadau cefn gwlad, yn enwedig ym mhenodau Iori’r Weirglodd, a fu'n benteulu. Yn ogystal, mae’r cymeriadau amrywiol - teulu’r Graig, pobl ddŵad yr ardal, a’r ymwelwyr - yn cynnig adlewyrchiad real o’r fro yn yr oes sydd ohoni. Ac yn sicr, mae’r ardal, a’r disgrifiadau godidog ohoni, yn rhan annatod o’r nofel.
Plot digon ystrydebol a geir – y gorffennol yn dylanwadu ar bresennol y cymeriadau. Ond mae dawn dweud Haf Llywelyn, a’r ymdeimlad sydd ganddi at ei hardal yn disgleirio trwy’r gyfrol hon ac yn ei chodi uwchben y rhelyw.
~Janice Jones @ www.gwales.com
Related Books
Please note that ePub files can now be opened on Kindle.
This website uses cookies. By continuing to use this website you are giving consent to cookies being used. For more information on how you can disable them, visit our Privacy and Cookie Policy.
Strictly Necessary Cookies
Strictly Necessary Cookie should be enabled at all times so that we can save your preferences for cookie settings.
If you disable this cookie, we will not be able to save your preferences. This means that every time you visit this website you will need to enable or disable cookies again.