The farmers of Llanuwchllyn in 1860 are poor, yet they still have to pay tithes. A novel about ordinary people raising their voices against oppression.
Pan adawyd Daniel a'i chwaer Dorothy yn amddifad, roedd pethau'n edrych yn dywyll iawn i'r ddau. Y wyrcws, oedd yr unig ateb i dlodion – lle ofnadwy, lle'r oedd tlodion yr ardal yn gorfod gweithio'n torri cerrrig am eu bwyd. Wedyn mae Daniel yn cael gwaith efo Mr Thomas y fferyllydd yn siop yr Apothecari, ac mae wrth ei fodd.
Ond ynghanol y tabledi, y ffisig a'r jariau o bob lliw a llun, ceir un botel fechan, wenwynig y mae'i chynnwys yn bygwth dyfodol Daniel ...
Mae Gwenwyn a Gwasgod Felen gan Haf Llewelyn yn nofel hanesyddol benigamp. Mae’r stori wedi ei lleoli yn Llanuwchllyn yn yr 1860au. Mae’n dilyn brawd a chwaer sydd wedi’u gadael yn amddifad, Daniel a Dorothy, ac yn eu dilyn wrth iddynt frwydro i oroesi, a byw bywyd o ddydd i ddydd. O’r diwedd mae pethau yn dechrau gwella i’r ddau wrth i Dorothy gael swydd fel morwyn a Daniel yn cael gwaith yn apothecari Mr Thomas. Ond wedi ei guddio ymysg y poteli a jariau diniwed mae potel fach o wenwyn (sef y 'gwenwyn' sydd yn nheitl y llyfr, ond rhaid i chi ddarllen y nofel gyffrous i weld beth yw ystyr y wasgod felen!).
Yn y cyfamser mae Michael D. Jones wedi dechrau ar ei ymgyrch i dorri’r bobl yn rhydd o reolaeth annheg y meistri tir creulon a barus, drwy berswadio miloedd o Gymry i sefydlu gwladfa newydd ym Mhatagonia, De America.
Mi wnes i ddysgu llawer am hanes y cyfnod yn y nofel hon, a deall yn well beth oedd wedi sbarduno pobl i ymfudo. Ond roedd dysgu am yr hanes go iawn yn gefndir i stori gyffrous, llawn dirgelion difyr, a stori wnaeth fy nghadw ar flaen fy sedd. Mae’r nofel yn addas i bobl ifanc o ryw 9+ (mae sôn ynddi am farwolaeth a llofruddio) ac yn anrheg wych. Er nad yw’r clawr yn cynnwys llawer o liw, mae’n addas ar gyfer y stori arbennig hon.
~Awen Dafydd @ www.gwales.com
Related Books
Please note that ePub files can now be opened on Kindle.
This website uses cookies. By continuing to use this website you are giving consent to cookies being used. For more information on how you can disable them, visit our Privacy and Cookie Policy.
Strictly Necessary Cookies
Strictly Necessary Cookie should be enabled at all times so that we can save your preferences for cookie settings.
If you disable this cookie, we will not be able to save your preferences. This means that every time you visit this website you will need to enable or disable cookies again.