A novel tracing the lives of gentry families in 17th-century Merionethshire and Caernarvonshire, portraying in particular the close friendship of Lady Margaret Wynne, wife of Sir John Wynne of Gwydir, and her maid, Begw. Scorned by her family-in-law, Margaret suffers from periods of depression and longing for her young daughter and her husband who spends a great deal of time in London
Rydym ynghanol cyfnod digon toreithiog o ran ysgrifennu nofelau Cymraeg, ac mae Haf Llewelyn yn datblygu i fod yn rhan bwysig o’r bwrlwm yma.
Nofel hanesyddol yw Y Traeth, sydd wedi ei lleoli yn Sir Feirionnydd a rhannau o Sir Gaernarfon ar ddechrau’r 17eg ganrif. Mae’n olrhain bywyd rhai o deuluoedd bonedd y cyfnod ac mae ôl ymchwil manwl ar y cynnwys. Ac mae'r elfen hanesyddol yn gefnlen gofiadwy i'r stori oesol am dyndra teuluol, cariad, disgwyliadau cymdeithasol a siom.
Y prif leoliad yw Plas y Wern, cartref Siôn Wynne, etifedd stad enfawr Gwydir, a’i deulu, a thrigolion yr ardal yw’r cymeriadau. Roedd Siôn wedi priodi Margaret Cave, merch un o deuluoedd pwysig Swydd Gaerlŷr ac wedi edrych ymlaen at sicrhau a pharhau llinach Gwydir. Yn anffodus, doedd hynny ddim mor hawdd â’r disgwyl a daw tyndra’r sefyllfa a chymhlethdodau cymeriad Margaret i’r amlwg.
Mae Margaret yn gymeriad bregus iawn, ac o ganlyniad i'r ffordd y cafodd ei thrin gan ei mam a theulu’r Wynniaid, mae'n dioddef o iselder ysbryd. Down i ddeall nad yw merched bonheddig y cyfnod yn fawr gwell na pheiriannau cynhyrchu meibion a fyddai'n etifeddu cyfoeth y teulu. Ac nid yn unig roedd Margaret wedi methu cenhedlu mab, roedd wedi geni merch anabl. Dysgwn ar ddechrau'r nofel fod y plentyn yn cael ei fagu gan eraill ymhell oddi wrth ei mam.
Yn sgil y ‘methiannau’ hyn bu’n rhaid i Margaret ddioddef dirmyg a sen heb gymorth ei gŵr; byddai hwnnw'n treulio llawer iawn o'i amser yn Llundain ac, yn ddiweddarach, dramor, yn ceisio creu cysylltiadau gyda theuluoedd bonheddig ar y cyfandir.
Mae cwrs stori’r teulu, a Margaret yn benodol, yn newid pan ddaw Begw ati'n forwyn i'r Wern. Mae perthynas agos yn tyfu rhyngddi hi a Margaret. Mae stori Begw’n datblygu ochr yn ochr â stori Margaret, a down i gydymdeimlo â’i sefyllfa hithau hefyd. Nid oes unrhyw ddewis ganddi ond aros gyda'i meistres drwy'r holl gymhlethdodau.
Ac er mai stori’r plas yw hon yn y bôn, mae llawer o gyfeirio at arferion y werin yn y cyfnod hefyd. Ac mae cymeriadau mwy gwerinol yr un mor bwysig i’r stori. Yn ogystal â stori Begw, mae perthynas Lewys a Sabel yn gyrru rhannau helaeth o’r nofel. Mae salwch difrifol ac effaith hynny ar y gymdeithas yn gysgod dros y cyfan, a does dim rhyfedd am hynny gan mai dyma un o gyfnodau'r pla du. Ac yn debyg i Mab y Cychwr, mae tirwedd drawiadol Sir Feirionnydd yn chwarae rhan fawr drwy gydol y nofel.
Mae’r penodau byr yn gymorth i symud y darllen yn ei flaen yn gyflym ac mae’r manylion hanesyddol yn ddiddorol iawn. Mae llawer o olygfeydd teimladwy yma sy’n sicrhau bod y delweddau’n fyw wrth ddarllen ond er y digwyddiadau trist, tybed a oes nodyn mwy gobeithiol tua’r diwedd? Ydy hynny’n awgrymu y bydd dilyniant arall yn ymddangos yn y dyfodol agos?
Mae Y Traeth yn ddilyniant o fath i Mab y Cychwr, ond er bod nifer o’r un cymeriadau’n ymddangos yn y ddwy, does dim rhaid darllen y nofel flaenorol i gael blas ar hon. Dyma nofel y byddwn i’n ei hargymell ar gyfer eich gwyliau – mwynhewch y darllen.
~Hefin Jones @ www.gwales.com
Related Books
Please note that ePub files can now be opened on Kindle.
This website uses cookies. By continuing to use this website you are giving consent to cookies being used. For more information on how you can disable them, visit our Privacy and Cookie Policy.
Strictly Necessary Cookies
Strictly Necessary Cookie should be enabled at all times so that we can save your preferences for cookie settings.
If you disable this cookie, we will not be able to save your preferences. This means that every time you visit this website you will need to enable or disable cookies again.