The story of a girl growing up in a city of towers with everyone spending every day building their towers higher and HIGHER, but the little girl questions the routine and longs for something more… A story with a positive message told in a gentle way with light-hearted illustrations by Huw Aaron.
Dyma lyfr lluniau newydd gan yr arlunydd a’r cartwnydd talentog Huw Aaron. Rydym yn gyfarwydd iawn â’i luniau a’i ddwdls sydd mewn nifer o lyfrau poblogaidd ac yng nghylchgrawn Mellten. Y tro hwn, Huw ei hun sydd wedi bod wrthi’n ysgrifennu’r stori yn ogystal â chreu’r lluniau. Dywedodd Huw fod y stori wedi bod yn ffrwtian yng nghefn ei ben ers blynyddoedd – wel o’r diwedd, dyma hi!
Stori yw hon am ferch fach o’r enw Petra sy’n byw mewn dinas yn llawn pobl brysur iawn, iawn. Drwy’r dydd, pob dydd mae’r gweithwyr yn adeiladu tyrau uchel iawn sy’n ymestyn tuag at yr awyr. Yn wir, mae’r gweithwyr yn fy atgoffa o forgrug gwyn sy’n treulio eu bywydau’n adeiladu tomenni mawr.
Mae Petra druan wedi diflasu ar y gwaith beunyddiol o adeiladu tyrau. Dechreua Petra gwestiynu’r drefn wrth iddi bendroni ynghylch y cwestiwn mawr athronyddol: oes 'na fwy i fywyd? Er bod oedolion pwysig yn ei siarsio i ‘dyfu fyny’ a ‘derbyn y drefn,’ yn ei chalon tydi hi methu rhoi’r gorau i freuddwydio. Un diwrnod, daw dynes i lawr o’r cymylau mewn balŵn aer poeth ac aiff â Petra ar antur ar draws y byd i weld yr holl ryfeddodau sy’n bodoli. Tybed a fydd Petra’n gallu perswadio gweddill trigolion y ddinas fod mwy i fywyd nag adeiladu tyrau?
Mae lluniau dyfrlliw Huw Aaron yn hyfryd o liwgar a cheir yma stori annwyl iawn gyda neges glir i blant ifanc (ac oedolion!) ei bod hi’n gwbl dderbyniol i gwestiynu’r drefn. Llwydda'r llyfr i gyfleu chwilfrydedd a rhyfeddod plant ynglŷn â’r byd o’u cwmpas. Un o negeseuon yr awdur yw bod rhyfeddodau lu i’w canfod o'n cwmpas ym mhob man, dim ond i inni fentro a mynd ati i chwilio.
Mewn ffordd, trosiad yw’r llyfr sy’n dangos sut mae bywyd modern wedi’n cyflyru i frysio o un lle i’r llall, gan weithio’n ddi-stop, heb gymryd amser i werthfawrogi ein byd yn llawn, a hwnnw reit o dan ein trwynau'n aml. Os am lyfr deniadol gyda stori hyfryd a neges gadarnhaol, Y Ddinas Uchel yw’r llyfr i chi.
~Morgan Dafydd @ www.gwales.com
Related Books
Please note that ePub files can now be opened on Kindle.
This website uses cookies. By continuing to use this website you are giving consent to cookies being used. For more information on how you can disable them, visit our Privacy and Cookie Policy.
Strictly Necessary Cookies
Strictly Necessary Cookie should be enabled at all times so that we can save your preferences for cookie settings.
If you disable this cookie, we will not be able to save your preferences. This means that every time you visit this website you will need to enable or disable cookies again.