A colourful, 24 page, A4 size book, suitable for children and adults, comprising 10 double-page spreads. Each spread reveals an overflowing scene, the task required being looking for Boc, the little dragon, which is hiding in each picture. The images can also promote searches for other objects, discussions and questions among children and between parents and children.
Mae’r llyfr lliwgar Ble Mae Boc? yn herio plant ac oedolion Cymru i ganfod draig fach goch sydd byth a beunydd ar goll mewn lleoliadau amrywiol o Fôn i Fynwy. Fe ymddangosodd Boc y ddraig gyntaf yn y comic Mellten. Ers deor o wy rhyfedd ar gopa’r Wyddfa, mae’n chwilio am ei mam.
Yn y gyfrol mae Boc ar goll o fewn deg golygfa tudalen ddwbl. Mae taith y ddraig fach o amgylch Cymru yn un ryfeddol, sy’n arwain y darllenydd o Gastell Caerffili i Stadiwm y Mileniwn, o ffwlbri ar y fferm i ddiwrnod ar lan y môr. Mae pob tudalen wedi ei llenwi i’r ymylon â chymeriadau lliwgar a sefyllfaoedd doniol a fydd yn sicr o godi gwên. Mae yma gŵn yn torheulo, darnau mawr o gaws yn crwydro, dau Ddewi Sant yn gorymdeithio, heb sôn am ddreigiau yn bwyta tsili a chewri concyrs yn y coed!
Drwy ei luniau gwych, llwydda Huw Aaron nid yn unig i gyflwyno tirwedd a rhai o ryfeddodau Cymru, ond i ddal ysbryd a chymeriad y genedl i’r dim. Mae’r cartwnau hefyd yn gyforiog o gyfeiriadaeth Gymraeg a Chymreig. O edrych yn ofalus fe ddewch o hyd, er enghraifft, i fochyn yn glynu poster Jaci Soch, Jini o gyfrolau Mary Vaughan Jones ar goll yn y goedwig, yn ogystal â baner seren wen ar gefndir gwyn ym Mhortmeirion.
Wedi i’r darllenwyr ganfod Boc, mae cyfle hefyd i ganfod wyau ei fam, ynghyd â Barri a Blodwen, casglwyr dreigiau cas sydd yn stelcian ymysg y delweddau. Mae yna restr o bethau a phobl ychwanegol i’w canfod yng nghefn y gyfrol wedi hynny. Fe fydd darllenwyr mwyaf selog Mellten yn siŵr o ganfod cymeriadau fel Gwil Garw, Capten Clonc, Gari Pêl a Bloben yn cuddio hefyd.
Dyma lyfr a fydd yn bendant yn hudo plant ac oedolion o bob oed i dreulio oriau yn craffu a chwerthin am yn ail. Mae’n gyfrol berffaith ar gyfer taith hir ar y trên, wrth eistedd yn nerbynfa'r feddygfa neu wrth ddiddanu plant llwglyd mewn caffi. Ac am £4.99 yn unig, dyma fargen y flwyddyn!
~Mari Siôn @ www.gwales.com
Related Books
Please note that ePub files can now be opened on Kindle.
This website uses cookies. By continuing to use this website you are giving consent to cookies being used. For more information on how you can disable them, visit our Privacy and Cookie Policy.
Strictly Necessary Cookies
Strictly Necessary Cookie should be enabled at all times so that we can save your preferences for cookie settings.
If you disable this cookie, we will not be able to save your preferences. This means that every time you visit this website you will need to enable or disable cookies again.