The first title in a fantasy series by Elidir Jones for teenagers, following the story of Copa Coch - a village that draws adventurers from all over the world.
Mae’n rhyfeddod parhaus i mi fod cyn lleied o weithiau ffantasi gwreiddiol ar gael yn y Gymraeg, yr iaith a gynhyrchodd y Mabinogi – straeon sydd wedi ysbrydoli The Lord of the Rings, llyfrau cyfres Harry Potter, Game of the Thrones a chymeriadau di-ri mewn gemau cyfrifiadur Saesneg, Coreaidd a Siapaneg ledled y byd! Ymddengys weithiau fod pawb yn gwerthfawrogi ein galluoedd creadigol yn y maes dan sylw ... heblaw amdanom ni ein hunain.
Dyma ail ymgais Elidir Jones i wneud yn iawn am y diffyg hwn yn dilyn Y Porthwll, nofel ffantasi i oedolion na chafodd hanner digon o sylw pan gyhoeddwyd hi yn 2015. Nofel i bobl ifanc yw'r Horwrth i fod, ond rhaid cyfaddef fy mod, a minnau'n prysur agosáu at gopa coch canol oed, mor hapus â thrwch trwyth mewn baw yn treiddio i Diroedd Gwyllt y De ac yn dod i nabod cymeriadau brith, gan gynnwys Heti, Casus a’r Abad Pietro.
Er i mi grybwyll y Mabinogi, nid ailgylchu byd ffantasi sy’n bodoli eisoes y mae Elidir Jones yma ond creu un newydd yn gyfan gwbwl o’i ben a’i bastwn ei hun. Yn nhraddodiad gorau y genre mae’r gyfrol yn dechrau â map gydag enwau fel ‘Yr Oerdir Unig’ ac ‘Ymerodraeth yr Enfer’ arno. Mae’n atgoffa rhywun pam bod yr iaith Gymraeg wedi bod yn gymaint o ysbrydoliaeth i gynifer o gyfresi ffantasi gwahanol – mae yna rywbeth cynhenid yn yr iaith Gymraeg, ryw gymysgedd o drystio gwreiddiau mynyddoedd ac ysgafnder y gwynt, sy’n swnio fel pe bai eu henwau'n perthyn i fyd y tylwyth teg.
Mae gen i deimladau cymysg am gynnwys darluniau mewn llyfr ffantasi, am mai rhan o’r hwyl wrth ddarllen yn aml iawn yw cael dychmygu byd sydd mor anarferol ag yr ydych chi’n dymuno iddo fod. Ond mae darluniadau Huw Aaron mor llawn o gymeriad fel eu bod yn ychwanegiad gwerth chweil yma. Mae’n tueddu i ddarlunio gwrthrychau mewn manylder a thirluniau yn reit fras, gan ganiatáu i’r dychymyg lenwi’r bylchau. Yn bwysig iawn, rhyw fath o hanes ail-law a geir yma, ac mae pa mor ddibynadwy y mae’r adroddwr wrth ddweud ei stori yn fwriadol amwys. Yr argraff a geir o’r geiriau a’r lluniau, felly, yw mai awgrym ydyn nhw o’r hyn a ddigwyddodd – fel darllen hen ddogfen lle mae’r mynach wedi bod yn tynnu lluniau ar yr ymylon.
Gobeithio mai'r stori hon dyma fydd y gyntaf o nifer yng nghyfres y Copa Coch. A gobeithio y byddan nhw'n ysbrydoli Cymry ifanc i fod eisiau darllen rhagor o weithiau ffantasi yn y Gymraeg – a’u hysgrifennu nhw hefyd!
~Ifan Morgan Jones @ www.gwales.com
Related Books
Please note that ePub files can now be opened on Kindle.
This website uses cookies. By continuing to use this website you are giving consent to cookies being used. For more information on how you can disable them, visit our Privacy and Cookie Policy.
Strictly Necessary Cookies
Strictly Necessary Cookie should be enabled at all times so that we can save your preferences for cookie settings.
If you disable this cookie, we will not be able to save your preferences. This means that every time you visit this website you will need to enable or disable cookies again.