A novel for teenage readers. Elin doesn't arrive home from school one day. But what has happened to her? Tir na n-Og Award winner 2007. First published in 2006.
Mae tua 25,000 o bobl yn diflannu bob blwyddyn. Un o’r bobl hynny yw Elin, merch ddwy ar bymtheg o Borthmadog. Cawn weld yn y nofel afaelgar hon effaith ei diflaniad dirybudd annisgwyl ar ei rhieni a’i chwaer, Ceri Mai.
Adroddir y stori fel catharsis o fath gan y chwaer ac mae daeargryn y diflaniad yn peri poen a gwewyr meddwl di-baid i’r tri sydd ar ôl. Tafla’r digwyddiad ei gysgod ar nifer o drigolion Port a chydnabod y teulu. Ond yr agosaf sy'n cael eu niweidio. Wrth i’r awdur dynnu darlun o ddedwyddwch teuluol yn cael ei rwygo, mae’r brifo’n boenus. Fe’n tynnir drwy’r holi a’r amheuon, y dadansoddi a’r gwadu, y cyhuddo a’r ymdrechion poenus i freuddwydio a cheisio cadw fflam gobaith yn fyw. Catharsis yw’r nofel wrth i Ceri sylweddoli cyn lleied yr adwaenai ei chwaer ddiflanedig. Yn grefftus llwydda Gareth F. Williams i adrodd stori llawn ing a gwewyr meddwl, gyda’r gwrthdaro mewnol yn tynnu’r darllenydd ar lwybr y chwilio a’r chwalu.
Rhennir y nofel yn dair rhan, ac mae tinc rhyw wirionedd syml yr ysgrifennu yn peri i’r stori garlamu ymlaen. Daw’r ddeialog rhwng y tri o’r cymeriadau’n fyw. Mae’r ysgrifennu’n ddirodres gydag ambell ddisgrifiad a chymhariaeth yn pefrio.
Gadewir y darllenydd ar ddiwedd y nofel hon yn fyr ei anadl yn gobeithio, yn dyheu ac yn gweddïo na ddigwyddith dim byd o’r fath iddo yntau. Ie, clatsien o nofel sy’n ddifyrrwch difrifol.
~Ion Thomas @ www.gwales.com
Related Books
Please note that ePub files can now be opened on Kindle.
This website uses cookies. By continuing to use this website you are giving consent to cookies being used. For more information on how you can disable them, visit our Privacy and Cookie Policy.
Strictly Necessary Cookies
Strictly Necessary Cookie should be enabled at all times so that we can save your preferences for cookie settings.
If you disable this cookie, we will not be able to save your preferences. This means that every time you visit this website you will need to enable or disable cookies again.