A novel based on the Senghennydd coalmine tragedy of 1913 when 439 men and boys lost their lives. Cwmwl dros y Cwm is a historical novel based on the fictional experiences of 12 year old John Williams, who moves to Senghenydd with his family from north Wales as his father seeks work in the coalmines of the south. Tir na n-Og Award winner 2014.
Yn dilyn y diweithdra a ddigwyddodd yn sgil streic fawr y chwareli yn Arfon (1900–1903) ymfudodd nifer o deuluoedd i’r de i chwilio am waith. Dyna fu hanes Edward Williams, Cêti ei wraig a John a Magwen, eu plant, yn y nofel hon.
Yn 1908 y symudodd y teulu i Senghennydd. Nid hawdd oedd gadael yr ‘hen adra’ am yr ‘adra newydd’ a cheisio ymdoddi i gymdeithas wahanol ac ymdopi â thafodiaith ddieithr. Cawsant eu bwlio gan deulu Stanley Maldoon ond fe ddaethant yn ffrindiau agos gyda’r bobl-drws-nesa: Jo Dando, ei wraig Ceridwen a’u chwe phlentyn.
Cafodd Edward Williams waith yn yr Universal Collieries ac ymhen amser dilynodd John ef i weithio o dan y ddaear. Roedd John ym mhwll y Lancaster pan ddigwyddodd y danchwa fawr ym mis Hydref 1913, ac mae darllen am effeithiau’r drasiedi arno ef a’i deulu a’i ffrindiau yn ddirdynnol. Nid yn unig yr oedd yna gwmwl du o fwg uwchben y lofa adeg y ddamwain ond hefyd gadawyd cwmwl du dros fywydau pobl am weddill eu hoes. Aeth Cêti, John a Magwen yn ôl i’r gogledd.
Mae yma gymeriadu da – Big Annie (ceir disgrifiad gwych ohoni ar dudalen 39) a Ceridwen, a hanai o dras y Romani, a chanddi’r gallu i rag-weld y dyfodol. Gwelir ôl cynllunio crefftus, er enghraifft y ddolen rhwng y dechrau a’r diwedd. Ar ddechrau’r nofel mae Now Be Nesa, ffrind gorau John yn y gogledd, yn sefyll yng nghysgod un o’r tryciau yn y seiding yn gwylio’r trên yn hercian o’r orsaf, ac ar y diwedd mae Bili Dando, ei ffrind gorau yn Senghennydd, yn sefyll wrth y tryciau y tu allan i’r orsaf yn gwylio’r trên yn mynd am yr ‘hen adra’.
Mae’r iaith yn goeth ac yn fyrlymus drwyddi draw. Chwip o nofel hanesyddol gan awdur sy’n feistr ar ei grefft, ac un o’r nofelau hynny sy'n gafael ynoch i'r fath raddau fel bod rhaid ei darllen ar un eisteddiad.
~Menna Lloyd Williams @ www.gwales.com
Related Books
Please note that ePub files can now be opened on Kindle.
This website uses cookies. By continuing to use this website you are giving consent to cookies being used. For more information on how you can disable them, visit our Privacy and Cookie Policy.
Strictly Necessary Cookies
Strictly Necessary Cookie should be enabled at all times so that we can save your preferences for cookie settings.
If you disable this cookie, we will not be able to save your preferences. This means that every time you visit this website you will need to enable or disable cookies again.