A spine-chilling novel for teenagers, set in a small coastal town in Gwynedd. They never have a white Christmas as it's so close to the sea. But this year, the snow comes suddenly before anyone has a chance to escape. Tir na n-Og Award winner 2008.
‘Sedre! Eich plant . . . eich plant chi!’
Geiriau a lefarwyd ugain mlynedd yn ôl ond sy’n parhau i daflu cysgod ar dref arfordirol Aberllechi a’i thrigolion. Mae hon yn nofel arswydus a medrus sy’n dangos bod canlyniad i bob gweithred a bod y canlyniadau hynny weithiau’n gallu bod yn ddychrynllyd. Prin y byddai Anna, Marc ac Ows Bach wedi meddwl y byddai’r daith adref o’r dafarn un noswyl Nadolig o eira yn newid eu bywydau am byth.
Adroddir yr hanes yma drwy lygaid nifer o drigolion Aberllechi. Un peth sydd yn eu cysylltu â’i gilydd yw’r ffaith eu bod oll yn cael eu heffeithio gan rywbeth neu rywun sydd yn eu dychryn. Mae gan rai o’r cymeriadau hyn fwy o atebion na’i gilydd, ac fel darllenwyr, cawn ein tywys trwy eu profiadau ofnus er mwyn i ninnau wybod beth sy’n llechu yn y cysgodion.
Byddai galw hon yn nofel ysbryd neu arswyd yn unig yn gwneud cam â hi; mae hon yn nofel seicolegol gelfydd sy’n dangos effaith gweithredoedd a’r euogrwydd a ddaw yn eu sgil. Mae Eira Mân, Eira Mawr yn difyrru ac yn gafael yn y darllenydd wrth ei ddychryn ar yr un pryd. Anodd iawn oedd rhoi’r nofel i lawr wrth i mi gael fy nhaflu’n ddyfnach i ddigwyddiadau un gaeaf yn Aberllechi. Yn sicr, mae hon yn chwip o nofel a fyddai’n apelio at oedolion yn ogystal ag arddegwyr hŷn.
O ganlyniad i iaith ffraeth y nofel ynghyd â rhai agweddau o’r cynnwys, byddwn yn awgrymu mai nofel ar gyfer plant hŷn yw hon ac nid i rai CA3/12+. Oherwydd ei lleoliad daearyddol, mae elfen dafodieithol y ddeialog yn gryf iawn a bydd angen gafael dda ar yr iaith er mwyn gwerthfawrogi’r nofel yn llawn. Serch hynny, mae hon yn nofel dreiddgar a chelfydd a fyddai’n apelio at bawb sy’n mwynhau cyffro a thensiwn. Cofiwch chi efallai nad yw’n nofel i’w darllen ar noson dywyll ar eich pen eich hun!
~Sioned Mair Jones @ www.gwales.com
Related Books
Please note that ePub files can now be opened on Kindle.
This website uses cookies. By continuing to use this website you are giving consent to cookies being used. For more information on how you can disable them, visit our Privacy and Cookie Policy.
Strictly Necessary Cookies
Strictly Necessary Cookie should be enabled at all times so that we can save your preferences for cookie settings.
If you disable this cookie, we will not be able to save your preferences. This means that every time you visit this website you will need to enable or disable cookies again.