Laugh out loud feel-good novel with a strong storyline by popular novelist Marlyn Samuel. This novel follows Menna's rebirth, with the help of friend Jan. After the sudden death of her husband Glyn, Menna, who is in her seventies, is set free to enjoy life, and love for the first time.
Nofel gyfoes, lawn hwyl ag iddi linyn storiol gref, gan yr awdur poblogaidd Marlyn Samuel. Nofel am hynt a helynt dwy wraig, Menna a'i ffrind Jan. Ar ol ymadawiad disymwth ei gAur Glyn, wedi trawiad angheuol mae Menna, sydd yn ei saithdegau cynnar fel petai'n cael ei gollwng yn rhydd i fwynhau bywyd, a chariad, am y tro cyntaf.
~Cyhoeddwr: Y Lolfa
Mae gŵr Menna Williams wedi cicio’r bwced. A da o beth hefyd gan fod Menna wedi bod yn synfyfyrio ers tro sut yn union y byddai hi’n lladd ei gŵr. Peidiwch â phoeni, nid nofel dditectif am lofruddiaeth ydi hon, a tydi’r farwolaeth ddim yn sboilar chwaith (a fydd dim datgelu sut yn union ddaru Glyn Williams farw ...). Nofel am ailafael mewn bywyd ydi hi, am gyfeillgarwch, cariad, ac am ryddid.
Yn wir, o’r eiliad mae ein prif gymeriad yn darganfod bod ei gŵr piwis ac anffyddlon wedi mynd o’i bywyd am byth mae fel petai hi o’r diwedd yn deffro. Roedd hi mor hapus o gael y newyddion gan heddwas ifanc nes iddi wahoddodd y creadur i mewn am baned a thamaid o Victoria Sponge. Yn naturiol, does neb yn medru deall pam fod Menna Williams yn ymddwyn mor rhyfedd, yn enwedig Michael ei mab a Carol ei merch yng nghyfraith dan din.
Rydym ni fel darllenwyr, ar y llaw arall, yn deall yn iawn. Am ormod o flynyddoedd o lawer bu o dan fawd a rheolaeth orfodol Glyn, un o ‘bileri’r gymdeithas’, yn coginio’i swper, yn cymryd ei alwadau, yn smwddio’i grysau, yn gwneud bob dim iddo. Ond beth oedd Menna yn gwneud iddi hi ei hun?
Un person sy’n gorfodi Menna i gamu o’r tywyllwch eto yw Jan. Roedd y ddwy yn ffrindiau gorau, y ddwy yn canu yn y grŵp pop Y Petalau, tan i Glyn ddod i ganol byd Menna, hynny yw. Gyda Jan, mae unrhyw beth yn bosib: siampên i ginio, Gran Canaria, hyd yn oed datŵ! Yn araf bach mae Menna yn dechrau ffeindio’i thraed gydag arweiniad ei ffrind, a’r ddwy yn byw eu bywydau gorau – am ryw hyd.
Dyma nofel gwbl hwyliog a ffraeth, ond mae ambell ongl ddigon tywyll o bryd i’w gilydd. Doedd bywyd priodasol Menna a Glyn ddim yn iawn, roedd yn rheoli pob agwedd o’i bywyd, a dawn yw'r gallu i drin pwnc mor bwysig â hyn mewn ffordd sy’n ddiddanwch hefyd.
Mae’r awdur yn adnabod ei phobl yn iawn, a sawl tro wrth ddarllen meddyliais ‘dwi’n nabod y person yma’. Gall y nofel apelio at bob oedran ac mae’r profiadau y mae Menna’n mynd drwyddynt yn rhai sy’n effeithio ar bob oedran, megis dysgu sut i ddweud na, meddwl am ailafael yn ei bywyd rhywiol ... oes, mae ychydig o Menna (a Jan) ym mhob un ohonom.
~Mared Llywelyn @ www.gwales.com
Related Books
Please note that ePub files can now be opened on Kindle.
This website uses cookies. By continuing to use this website you are giving consent to cookies being used. For more information on how you can disable them, visit our Privacy and Cookie Policy.
Strictly Necessary Cookies
Strictly Necessary Cookie should be enabled at all times so that we can save your preferences for cookie settings.
If you disable this cookie, we will not be able to save your preferences. This means that every time you visit this website you will need to enable or disable cookies again.