Wow! Winning the Lottery is something we'd all love to experience. When a busy wife, mum and grandmother wins #9.1million she expects it will solve all her problems. But life isn't quite so simple. We'll laugh and cry with Wendi as she takes on the challenges of her new life, which include exotic holidays, a large house, fast cars, a night at the Ritz.
Mae pob un ohonon ni, ar ryw dro neu'i gilydd, wedi ystyried beth fydden ni’n ei wneud petaen ni'n ennill y loteri.Sut fydden ni’n gwario’r arian? A fydden ni’n rhannu peth ohono gydag eraill ac os felly – faint?
Yn achos Wendi Jones mae’r freuddwyd yn dod yn wir. Mae’n ennill £9.1 miliwn ac mae ei byd hi a’i theulu yn newid dros nos. Does bellach ddim raid iddyn nhw ddewis rhwng talu biliau neu fwyta; mae nhw’n symud i dŷ moethus, yn sefydlu busnes, ac yn gallu gwario’r hyn a fynnan nhw ar ddillad, ceir a gwyliau. Ond buan iawn daw’r ystrydeb yn wir – dyw arian ddim yn prynu hapusrwydd. Mae byd Wendi’n dechrau dadfeilio, a dyw’r arian ddim yn ddigon i lenwi’r tyllau yn eu bywyd.
Y prif fwynhad wrth ddarllen y nofel hon yw’r ddeialog fachog a dawn wirioneddol yr awdur i arsylwi ar ffyrdd pobl o siarad ac ymddwyn. Mae’r ysgrifennu’n fyrlymus ac yn llawn hiwmor, hyd yn oed pan mae pethau’n mynd o chwith ac mae Wendi’n gorfod ailystyried beth sy’n bwysig iddi.
A’r hiwmor yma sy’n gwneud Wendi yn gymeriad mor hoffus. Hi yw’r un sy’n cadw ei phen drwy’r holl ffolineb, a phan ddaw trafferthion i’w rhan rydyn ni’n parhau i uniaethu â hi ac yn ei chefnogi. Mae ‘na lawer iawn yn digwydd i Wendi yn ystod y nofel; rydyn ni’n chwerthin a chrio gyda hi, ac yn gobeithio y daw tro ar fyd ac y bydd yna ddiweddglo hapus.
Mae yna themâu chick lit cryf i’r nofel, gan gynnwys y diweddglo a’i elfen ffantasïol, ac mae’n weddol amlwg o’r dechrau sut y bydd rhai elfennau o’r stori yn datblygu. Ond does dim ots am hynny; mae’n bleser i’w darllen. Os ydych chi’n hedfan dramor am ychydig o heulwen yr haf yma cadwch y nofel hon ar gyfer y gwely wrth y pwll nofio. Os nad ydych chi’n dianc i’r haul darllenwch hi 'ta beth – mae'n ddihangfa go iawn.
~Cerian Arianrhod @ www.gwales.com
Related Books
Please note that ePub files can now be opened on Kindle.
This website uses cookies. By continuing to use this website you are giving consent to cookies being used. For more information on how you can disable them, visit our Privacy and Cookie Policy.
Strictly Necessary Cookies
Strictly Necessary Cookie should be enabled at all times so that we can save your preferences for cookie settings.
If you disable this cookie, we will not be able to save your preferences. This means that every time you visit this website you will need to enable or disable cookies again.