A contemporary novel about two half sisters who meet for the first time at their father's funeral. A clever mix of humour and pathos.
Mae sawl rheswm dros ddarllen llyfr. ac, ambell waith, does dim byd gwell na chael gafael ar lyfr da i’w ddarllen am ddim rheswm penodol o gwbl – heblaw i ymlacio, i gael eich difyrru, neu cyn mynd i gysgu, efallai. I’r categori hwn mae Cwcw gan Marlyn Samuel yn ffitio’n berffaith.
Chick Lit yw’r ffurf, am wn i, wrth i ni ddilyn hynt a helyntion y ddwy hanner chwaer, Lowri a Seren, a chasgliad o ddynion a babis. Mae bron pob dyn yn y llyfr yn – neu wedi – bod yn anffyddlon, a chwarae teg i’r awdures, nid yw’n syrthio i unrhyw fagl bod rhaid cael y diweddglo siwgwrllyd perffaith i bawb chwaith.
O ail frawddeg y nofel, “A twll din y fycar!”, mae’n hollol amlwg fod yr iaith naturiol, hawdd ei darllen, yn goch iawn ar adegau, ac mae bron pob dyn yn “fastyn”. Mae’r stori'n llifo'n rhwydd, gyda digon o ddoniolwch yma i ni wybod nad yw hwn yn llyfr sy’n cymryd ei hunan, na’r pynciau, ormod o ddifri. Chwarddais yn uchel sawl gwaith. Tonic!
Nid yw’r llyfr heb ei feiau chwaith. Ambell waith mae’n anodd credu’n llwyr yn y cymeriadau. Nid yw’n helpu mater pan fo mân feiau, fel Dylan ar ddechrau’r nofel yn nodi ei ddyhead: “un diwrnod... roi cynnig am y Gadair neu’r Goron” ac ychydig benodau wedyn cawn wybod ei fod “wedi cystadlu ar y Goron ... am y trydydd tro”. Nid yw Seren yn “estyn gwydr” ond yn yfed y gwin o’r botel, cyn tollti “gwydriad” arall, cyn mynd yn ôl i gymryd “dracht mawr arall o’r botel”. Oes ots? Na, fawr ddim, ond mae ychydig fel gwylio ffilm lle mae beiau ar y dilyniant yn gwneud i’r cyfanwaith deimlo’n fwy simpil. Braidd yn annhebygol hefyd yw dychmygu Dylan yn ei slipars mewn villa ym Mallorca pan mae’n bwrw glaw “yn solat” am ddeuddydd – ym mis Awst.
Mae’r awdures Elizabeth Merrick yn enwog am ei chondemniad o Chick Lit fel fformiwla sy’n merwino’r synhwyrau. Ond mewn byd sydd yn llawn o bethau i boeni yn eu cylch, mae cael diflannu rhwng dau glawr gyda chymeriadau sy’n gwneud i rywun chwerthin yn uchel yn ddihangfa i’w chroesawu. Llyfr i’w brynu, a’i ddarllen, a’i rannu yw hwn, a diolch byth am lyfrau fel hyn yn Gymraeg. Os am gyrraedd y miliwn o siaradwyr Cymraeg, dyma’r math o lyfr allai ddenu darllenwyr newydd hefyd.
~Angharad Mair @ www.gwales.com
Related Books
Please note that ePub files can now be opened on Kindle.
This website uses cookies. By continuing to use this website you are giving consent to cookies being used. For more information on how you can disable them, visit our Privacy and Cookie Policy.
Strictly Necessary Cookies
Strictly Necessary Cookie should be enabled at all times so that we can save your preferences for cookie settings.
If you disable this cookie, we will not be able to save your preferences. This means that every time you visit this website you will need to enable or disable cookies again.