This book is the rib-tickling, belly-aching and laugh-out-loud third title in the Dyddiadur Dripsyn (Diary of a Wimpy Kid) series by Jeff Kinney. Perfect for both boys and girls of 8+, reluctant readers and all the millions of devoted Wimpy Kid fans out there.
Cafodd Greg Heffley, sef y Dripsyn honedig, ddyddiadur yn anrheg gan ei dad, ac ynddo mae’n cofnodi ei helyntion drygionus a’i droeon trwstan. Mae cynhwysion stori’r ‘bachgen drwg’ – yn yr un traddodiad a Nedw (E. Tegla Davies) a Just William (Richmal Crompton) – yma i gyd, sy’n sicr o fod yn boblogaidd gyda phlant, yn enwedig bechgyn. Mae yma luniau du a gwyn hyfryd gan Jeff Kinney ar bob tudalen. Mae’r iaith yn dafodiaeth ogleddol, efallai yn rhy ogleddol ar adegau – roedd yna rai geiriau dieithr iawn i blant o dde Cymru (e.e. drybola, hysio, tantro, swadan, honco, hartan) a allai, efallai ymestyn eu geirfa, neu eu drysu! Mae’r testun yn llawn hiwmor, a’r lluniau yn ategu hynny. Mae yma gymeriadau byw a chofiadawy - Greg ei hun, ei dad a’i frodyr Roderic a Mani.
Mae’r fformat dyddiadur yn fodd i annog plant i ddechrau eu dyddiadur eu hunain. Er bod yr awdur o America mae’r addasiad hwn yn hynod Gymreig. Mae pob diwrnod fel pennod fach wahanol, gydag elfennau fydd yn apelio at blant 11–13 oed, fel y gariadferch Heulwen Hills sy’n anwybyddu Greg, y brawd Roderic sy’n ei gasáu, y brawd bach sy’n cael ei ddifetha’n rhacs, a’i gyfaill ffyddlon Roli. Mi fydd plant yn sicr o gael y llyfr hwn yn ddifyr, ac mae’n fodd i annog y rhai llai academaidd i ddarllen ac i ysgrifennu.
~Eiry Palfrey @ www.gwales.com
Related Books
Please note that ePub files can now be opened on Kindle.
This website uses cookies. By continuing to use this website you are giving consent to cookies being used. For more information on how you can disable them, visit our Privacy and Cookie Policy.
Strictly Necessary Cookies
Strictly Necessary Cookie should be enabled at all times so that we can save your preferences for cookie settings.
If you disable this cookie, we will not be able to save your preferences. This means that every time you visit this website you will need to enable or disable cookies again.