School property has been damaged and Greg is the prime suspect. But the crazy thing is, he's innocent! Or at least sort of. The authorities are closing in, but then a surprise blizzard hits and the Heffley family is trapped indoors. Greg knows that when the snow melts he is going to have to face the music, but could any punishment be worse than being stuck inside with your family?
Os nad ydych am ryw reswm rhyfedd wedi clywed am y gyfres Dyddiadur Dripsyn, sydd wedi’i haddasu’n gelfydd i’r Gymraeg gan Owain Siôn o’r gyfres fyd-enwog Diary of a Wimpy Kid gan Jeff Kinney, rydych ar eich colled yn fawr...
Mae’r llyfrau yn sôn am fywyd ysgol uwchradd o bersbectif Greg Heffley, sy’n teimlo poenau’r ysgol yn fawr iawn. Hon yw’r chweched gyfrol yn y gyfres, ac yn sicr nid yw’n siomi dilynwyr ffyddlon y gyfres, wrth i Greg a’i anturiaethau a’i droeon trwstan barhau mor cringy ag erioed; a'r tro hwn cwyno am dreulio cyfnod y Nadolig gyda’i deulu, yr Heffleys, y mae Greg.
Yn ogystal â’r portreadu realistig o ysgol ar adegau (yn enwedig wrth sôn am athrawon!), mae hi’n stori tu hwnt o ddigri a chartwnau comig iawn yn cyd-fynd â’r testun. Mae’r lluniau yn gwneud y darllen yn haws a mwy hwylus, a hynny bob amser yn atyniad i ddarllen llyfr! Mae hyn yn enwedig o wir pan fo’r stori yn boenus i’w darllen e.e. Greg yn difetha paent car newydd sbon ei dad, gyda’r lluniau yn dod â’r profiadau yn llawer mwy byw. Mae’n hawdd uniaethu â Greg, gan ei fod yn mynd i drwbl yn aml gyda’i deulu a’r ysgol. Mae cymeriadau eraill yn y stori yn rhai unigryw ac yn rhwydd eu hoffi, neu beidio, e.e. diniweidrwydd Rowli ac annhegwch ei fam.
Rwyf wedi darllen nifer o’r gyfres hon yn Saesneg, a rhaid dweud bod yr addasiad yn hynod dda ac yn darllen yn rhwydd iawn, ac nid yw’r agwedd Americanaidd yn amharu gormod. Byddwn yn argymell y llyfrau yma i bawb; gall rhywun o unrhyw oedran eu codi i gael chwerthin, ond mae’n enwedig o addas ar gyfer plant 8 i 12 oed, ac yn apelio’n fawr at fechgyn yn arbennig.
~Peredur Morgan @ www.gwales.com
Related Books
Please note that ePub files can now be opened on Kindle.
This website uses cookies. By continuing to use this website you are giving consent to cookies being used. For more information on how you can disable them, visit our Privacy and Cookie Policy.
Strictly Necessary Cookies
Strictly Necessary Cookie should be enabled at all times so that we can save your preferences for cookie settings.
If you disable this cookie, we will not be able to save your preferences. This means that every time you visit this website you will need to enable or disable cookies again.