Another novel in the Pen Dafad series for younger teenagers. Manon Steffan Ros won the Tir na nOg award (for Trwy'r Tonnau) and the Wales Book of the Year people's prize (for her adult novel Fel Aderyn), both in 2010. She has also published a novel, Hunllef, in the Stori Sydyn series.
Nofel arall yng Nghyfres Pen Dafad ar gyfer yr arddegau cynnar. Mae Manon Steffan Ros wedi ennill Gwobr Tir na nOg 2010 (Trwy'r Tonnau) a Gwobr y Bobol Llyfr y Flwyddyn 2010 gyda'i nofel gyntaf i oedolion, Fel Aderyn. Mae hefyd wedi cyhoeddi Hunllef yn y gyfres Stori Sydyn.Another novel in the Pen Dafad series for younger teenagers. Manon Steffan Ros won the Tir na nOg award (for Trwy'r Tonnau) and the Wales Book of the Year people's prize (for her adult novel Fel Aderyn), both in 2010. She has also published a novel, Hunllef, in the Stori Sydyn series.
~Publisher: Y Lolfa
Rydw i wedi’i ddweud e sawl gwaith ac mi ddywedaf eto – mae Manon Steffan Ros yn un o’n hysgrifenwyr gorau yng Nghymru heddiw. Mae hi’n ysgrifennu'n fywiog ac yn gynnes, ac yn gwneud i chi ysu am gyrraedd ei diwedd er mwyn gweld beth yw clo'r stori.
Dyw’r gyfrol hon yn y gyfres Pen Dafad ddim yn eithriad. Dyma gyfres arloesol i bobl ifanc yn eu harddegau sy'n trafod ystod eang o bynciau. Stori yw Baba Hyll am daith Huw yn dychwelyd o dŷ ei ffrind. Roedd ei fam yn llawer rhy brysur i’w nôl a doedd e ddim wedi mynd â’i feic ac felly doedd dim amdani ond cerdded ar hyd y ffordd a arweiniai i fynydd Moel y Ci a chamu i’r goedwig. Fel arfer, fe fyddai adre mewn dim o amser ond wrth iddo gofio am straeon ei fam am Baba Hyll, sef gwrach a drigai yn y goedwig, daeth profiad rhyfedd iawn i’w ran a doedd ’na ddim dianc.
Ymhen hir a hwyr roedd Huw yn nhŷ Baba Hyll - ac aeth diwrnodau heibio yn ei feddwl ef beth bynnag - wrth iddo wneud pob math o bethau i Baba Hyll. Fe fu’n gwneud tân, golchi dillad gwely, trwsio’r to a bu’n cysgu yn ei gwely hi hefyd. Mae’r sefyllfa yn un oeraidd a chyfleir yr ofn sydd yn Huw yn aml ond eto mae yna gynhesrwydd yn ymwneud Huw â hi. Er ei ofn cychwynnol mae e’n closio ati a cheir elfen o deyrngarwch rhwng y ddau. Mae yna is-wers yma sef na ddylid derbyn gair pobl eraill bob tro am rywun. Y peth doethaf yw ffurfio barn annibynnol fel y canfu Huw.
Dyma stori sy’n hawdd iawn i’w darllen - yn addas ar gyfer plant ysgol uwchradd ond hefyd yn ddigon difyr i oedolion, fel y canfu’r adolygydd hwn! Manon – edrychaf ymlaen at dy waith creadigol nesaf.
~Sarah Down-Roberts @ www.gwales.com
Related Books
Please note that ePub files can now be opened on Kindle.
This website uses cookies. By continuing to use this website you are giving consent to cookies being used. For more information on how you can disable them, visit our Privacy and Cookie Policy.
Strictly Necessary Cookies
Strictly Necessary Cookie should be enabled at all times so that we can save your preferences for cookie settings.
If you disable this cookie, we will not be able to save your preferences. This means that every time you visit this website you will need to enable or disable cookies again.