Gwenno is dead - perfect, clever, beautiful Gwenno, who is popular with both swots and cool people. Her body was found in the slate mine, the police are everywhere around Bethesda, and everyone is looking for her. But they have no hope of finding her, as they have no idea what she was really like.
Mae’r nofel hon yn agor trwy daflu’r darllenydd yn syth i’r dŵr dwfn wrth i’r bennod gyntaf gyhoeddi fod merch ifanc wedi’i darganfod yn farw – wedi ei lladd. Does neb yn gwybod pwy lofruddiodd Gwenno, 16 mlwydd oed, gan adael ei chorff gwaedlyd yn y chwarel, na pham fyddai rhywun yn llofruddio merch ifanc a ymddangosai’n hapus a pherffaith. Ond yn fuan iawn, down i ddeall nad oedd Gwenno yn ferch mor syml â hynny, a datgelir mwy a mwy am ei chymeriad, ei phersonoliaeth, a bywyd cymhleth ei theulu.
Dyma nofel ddirgelwch sy’n anodd ei rhoi i'r naill ochr. Gan nad yw pethau fel ag y maent yn ymddangos ar yr wyneb, cawn ein llyncu i’r stori, gan awchu am ddarllen ymlaen er mwyn gwybod beth yn union ddigwyddodd i’r ferch mewn gwirionedd.
Adroddir yr hanes yn y person cyntaf trwy lygaid Shane, un o’r bechgyn sydd yng nghriw ffrindiau Gwenno. Cawn glywed am yr ymchwil i farwolaeth ei ffrind ac ymateb unigolion i’w llofruddiaeth, ac edrychir yn ôl ar rai anecdotau anhysbys sy’n cyfrannu at yr eglurhad dros deimladau Gwenno a’r rhesymau dros ei marwolaeth annhymig. Yn fuan iawn, deallwn fod ffrindiau Gwenno yn gwybod mwy nag y maent yn fodlon ei gyfaddef i’r heddlu, a bod ganddynt hefyd resymau da dros guddio’r gwir.
Ymhleth yn y stori drosedd, llwydda’r awdur i gyfuno’r dirgelwch gyda phrofiadau bob dydd criw o bobl ifanc – y da, y drwg, a’r hyll. Cyffyrddir ar brofiadau’n ymwneud ag ysgol ac athrawon a’u hymddygiad; perthynas plant a’u rhieni; perthynas pobl ifanc â’i gilydd; cariad a rhyw; alcohol ac yfed dan oed; iselder a chasineb; camdriniaeth o ferched, a dyn sy’n byrfyrt. Trafodir hefyd y gwahaniaethau rhwng dosbarthiadau cymdeithasol Cymry Cymraeg, a’r effaith gaiff eu cefndir ar fydolwg pobl ifanc. Dyma stori emosiynol sy’n cynnwys disgrifiadau gonest a chignoeth drwy ddatgelu cyfres o gyfrinachau.
Caiff y darllenydd hefyd gyfle i ddod i adnabod rhywfaint ar dref Bethesda a’i hanes chwarelyddol, ac mae rhai disgrifiadau celfydd iawn yma, yn enwedig wrth ddisgrifio’r chwarel a theimlad y llechi. Mae arddull y gyfrol yn sicrhau bod y darllen yn rhwydd, ac yn gweddu i’r math o stori lle mae darllenydd yn ysu am ddarllen ymlaen yn gyflym er mwyn darganfod y gwir. Tynnir y darllenydd i ganol y stori drwy siarad yn uniongyrchol â’r darllenydd, gan ddyfalu sut mae’r darllenydd yn meddwl a theimlo wrth ei chlywed. Os ydych chi’n ysu am nofel i’ch cipio i fyd trosedd a dirgelwch, bydd hon yn siŵr o blesio.
~Awen Schiavone @ www.gwales.com
Related Books
Please note that ePub files can now be opened on Kindle.
This website uses cookies. By continuing to use this website you are giving consent to cookies being used. For more information on how you can disable them, visit our Privacy and Cookie Policy.
Strictly Necessary Cookies
Strictly Necessary Cookie should be enabled at all times so that we can save your preferences for cookie settings.
If you disable this cookie, we will not be able to save your preferences. This means that every time you visit this website you will need to enable or disable cookies again.