Elin had been looking forward eagerly to the summer holidays; warm days, garden barbecues and relaxation. But her dreams are shattered on the last day of term, forcing her to make a rash decision. Will the green hills of Ireland - and the warm welcome of childhood friend Rhys - bring solace?
Mae hi’n ddiwrnod olaf tymor yr haf, ac mae Elin yn methu ag aros i’r gwyliau hir ddechrau. A hithau’n gynorthwyydd dosbarth mewn ysgol, mae hi’n haeddu seibiant. Tybed a fydd ei gŵr hi, Elfed, wedi cofio paratoi’r barbeciw?
Siom chwerw sy’n wynebu Elin unwaith yn rhagor, wrth iddi ganfod Elfed yn cysgu ar y soffa, dim argoel o farbeciw, a’r rhochian yn awgrymu na fydd ei gŵr yn deffro o’i drwmgwsg meddw am oriau. Wedi diflasu un tro’n ormod, mae hi’n gwneud penderfyniad byrbwyll i lwytho’i merched, Beca a Moli, i’r car ac i ddianc i Iwerddon, at ei hen ffrind annwyl, Rhys.
Gŵr gweddw ifanc a chanddo dri o feibion yw Rhys, ac mae e’n cynnal busnes beicio mynydd yn swydd Wicklow. Lladdwyd Roísín, ei wraig, mewn damwain, a bellach mae’n ceisio magu’r meibion yn Gymry Gwyddelig, a chynnal ei fusnes, gyda help ei frawd yng nghyfraith, Kevin, a mam hwnnw, yr oesol-ddiflas Betty. Mae Sinéad, sy’n cadw llety gwely a brecwast yn y pentref cyfagos, Knockfree, hefyd yn ceisio rhoi help llaw.
Un haf bythgofiadwy yn hanes dau deulu clwyfus yw craidd Môr a Mynydd, a’r ffordd y mae perthynas pobl â’i gilydd yn gallu bod yn ddirgelwch, hyd yn oed i’r bobl sydd agosaf atoch. Byddai fy mam-gu bob amser yn dweud mai ‘gweld ein gilydd’ rydym ni, hynny yw, mai dim ond gweld yr hyn sydd ar yr wyneb fyddwn ni, ac mae’r nofel hon yn enghraifft berffaith o’r modd y gellir plicio haenau oddi ar berthynas pobl â’i gilydd, fel nionyn, i ganfod y gwir.
Wrth i Elin frwydro â’i theimladau, ac i Rhys adael i’w galon doddi ar ôl rhew maith, ac wrth i’r plant gyd-dyfu a datblygu yn ystod y gwyliau, mae pawb yn gwybod y bydd yn rhaid i Elin a’r merched ddal y fferi’n ôl i fywyd go iawn yng Nghymru cyn bo hir – ond a chymaint wedi newid, a fydd Elin yn gallu troi’i chefn ar freuddwyd ac ailgydio yn ei hen fywyd diflas?
Er bod hon yn nofel ddelfrydol ar gyfer mynd ar wyliau, nid nofel fflwff mohoni; ceir digon o gig ar yr asgwrn, a buan y byddwch wedi ymgolli yn y stori, closio at y cymeriadau a meddwl beth yw’r ateb i sefyllfa anodd Elin a Rhys. Fe hoffwn i, yn sicr, gael gwybod – plis, Rhian Cadwaladr, beth am Fwy o Môr a Mynydd?!
~Bethan Mair @ www.gwales.com
Related Books
Please note that ePub files can now be opened on Kindle.
This website uses cookies. By continuing to use this website you are giving consent to cookies being used. For more information on how you can disable them, visit our Privacy and Cookie Policy.
Strictly Necessary Cookies
Strictly Necessary Cookie should be enabled at all times so that we can save your preferences for cookie settings.
If you disable this cookie, we will not be able to save your preferences. This means that every time you visit this website you will need to enable or disable cookies again.