We join Gwen as she tries to forget her ex and keep control of her unmanageable dog!
Does dim yn well na setlo i ganol stori dda. Dyna'n union a ddigwyddodd i mi gyda'r gyfrol hon wrth ddarllen hanes Gwen a'i hanturiaethau. Y stori'n fras yw bod Gwen newydd ddathlu ei phen-blwydd yn hanner cant ond drannoeth y pen-blwydd mawr mae ei chymar Eifion yn penderfynu ei gadael. Dyw'r rhesymau ddim yn glir ac yn sicr dyw cael coblyn o ben tost yn dilyn y dathliadau ddim yn help wrth iddi geisio ymresymu.
Stori Gwen, a'r modd y mae hi'n delio â'r amrywiol sefyllfaoedd, sy'n llenwi gweddill y tudalennau. I'r sawl sydd oddeutu'r hanner cant mae yna, siŵr o fod, nifer o brofiadau cyffredin – mam oedrannus yn ffonio'n aml ac arni angen help, dau blentyn blêr ond eto sy'n torri calon eu mam wrth iddynt ymadael â'r nyth, yfed gormod o win a delio â chanlyniadau hynny, a delio â chyn-ŵr ac ambell edmygydd newydd.
Yr hyn sy'n dda am y nofel hon o'i chymharu â nifer o rai tebyg iddi yw nad yw Gwen yn gollwraig. Nid wyf am ddatgelu'r stori ond mae Gwen yn llwyddo i oresgyn e'i hanawsterau ac yn troi'n enillydd – hynny, wrth gwrs, gyda chymorth ei chi Idwal. Er nad oes siâp arno yntau chwaith, mae e'n dipyn o arwr yn y stori hon.
Dyma gyfrol hawdd iawn ei darllen. Mae'r stori a'r naratif yn llifo'n hynod rwydd ac y mae'r ddeialog yn bwrpasol. Os ydych wedi blino ar ôl diwrnod caled o waith, neu os ydych ar eich gwyliau, dyma, heb os, y llyfr delfrydol ar eich cyfer. Mi waranta i y byddwch yn medru uniaethu â llawer o'r profiadau ac fe fydd yr anturiaethau a'u canlyniadau yn dod â gwên i'ch wyneb. Edrychwn ymlaen at gael nofel arall gan yr awdures naturiol a thalentog hon.
~Sarah Down-Roberts @ www.gwales.com
Related Books
Please note that ePub files can now be opened on Kindle.
This website uses cookies. By continuing to use this website you are giving consent to cookies being used. For more information on how you can disable them, visit our Privacy and Cookie Policy.
Strictly Necessary Cookies
Strictly Necessary Cookie should be enabled at all times so that we can save your preferences for cookie settings.
If you disable this cookie, we will not be able to save your preferences. This means that every time you visit this website you will need to enable or disable cookies again.