The fourth detective novel by John Alwyn Griffiths. This time, the headstrong detective Jeff Evans gets involved in the dangerous world of people trafficking. Reprint. First Published in 2015.
Os ydych chi’n gyfarwydd â hanes y Ditectif Jeff Evans, dyma ddilyniant naturiol i’r nofel ddiwetha. Ond os nad yw’r straeon blaenorol yn gyfarwydd i chi, gallwch blymio i dudalennau'r nofel hon yr un mor hawdd, heb wybod y cefndir. Yma mae’r ditectif yn holi, procio, cythruddo ac ymchwilio yr un mor drwyadl ag erioed er mwyn dod at y gwirionedd, a hynny wrth iddo geisio achub ei enw da a’i yrfa yn yr heddlu. Lleolir y rhan fwyaf o'r nofel hon ar stad wledig yng nghefn gwlad gogledd Cymru. Ond mae awgrym yma fod yna ochr dywyll i’r gymuned hon wrth i Jeff Evans ymchwilio i ymosodiad ar berchennog y stad, ac i sawl digwyddiad anghyfreithlon arall sydd ynghlwm â’r lle.
Wrth grafu'r wyneb mae’n darganfod sawl haenen bwdwr a allai fod yn dylanwadu ar y drygioni sydd ar waith yn y gymuned. Yn gymysg â’r cyfan ceir awgrym bod rhai o ddynion dieflig y pentre – y rhai sy'n byw yno ar hyn o bryd ac ambell un o’r gorffennol – yn gyfrifol am rwydwaith smyglo pobl, a hynny ar raddfa ryngwladol.
Ar sawl achlysur daw’r awdur â delweddau o arferion bywyd cefn gwlad o'r gorffennol yn fyw drwy’r tudalennau. Ac er bod nifer y cymeriadau sy’n cael eu cyflwyno yn achosi rhywfaint o ddryswch ar brydiau, mae’r troeon annisgwyl yn y stori yn eich ysgogi i ddal ati. Mae iddi ddiweddglo cyffrous wrth i’r ditectif herio trais a cheisio achub bywydau trigolion y stad. Dyma nofel sy’n hawdd ei darllen, gyda llinyn storïol cryf drwyddi, a chymeriadu credadwy.
~Sara Gibson @ www.gwales.com
Related Books
Please note that ePub files can now be opened on Kindle.
This website uses cookies. By continuing to use this website you are giving consent to cookies being used. For more information on how you can disable them, visit our Privacy and Cookie Policy.
Strictly Necessary Cookies
Strictly Necessary Cookie should be enabled at all times so that we can save your preferences for cookie settings.
If you disable this cookie, we will not be able to save your preferences. This means that every time you visit this website you will need to enable or disable cookies again.