When Elen Thomas learns that somebody has been breaking into her aunt's isolated farmhouse, she does not turn to the police force for assistance, but to Meurig Morgan, who solved the mystery of her husband's death five years previously. A sequel to Dan yr Wyneb.
Llofruddiwyd merch ifanc yng Nglan Morfa ddeng mlynedd ar hugain yn ôl. Mae’r un peth wedi digwydd eto.
Pan ddaw Elen Thomas i ddeall fod rhywun wedi bod yn torri i mewn i ffermdy unig ei modryb ym mherfeddion nos er mwyn ei dychryn, nid at yr heddlu mae hi’n troi. Meurig Morgan lwyddodd i ddatrys dirgelwch marwolaeth ei gŵr bum mlynedd ynghynt – ond y tro yma, fydd o’n tynnu blewyn o’r trwyn anghywir?
Dyma ddilyniant llawn twyll a dirgelwch i nofel gyffrous gyntaf John Alwyn Griffiths, Dan yr Wyneb.
‘Dyma chwip o nofel, sy’n symud yn gyflym ond yn hyderus ac yn ddifyrrwch pur. Darllenwch, mwynhewch . . . a gweddïwch mai ffuglen yw’r cyfan.’
Adolygiad o Dan yr Wyneb; Catrin Beard, gwales.com
~Cyhoeddwr: Gwasg Carreg Gwalch
Mae hwn yn gyfnod euraid i lenyddiaeth datrys a dirgelwch. Ac yn ychwanegol at y silffoedd sy'n orlawn o lyfrau sy'n perthyn i'r genre hwn, cyhoeddwyd y nofel hon ar adeg amserol iawn, sef dechrau'r gyfres deledu newydd Y Gwyll.
Dyma ail offrwm John Alwyn Griffiths. Mae hon yn dilyn ar sawdl nofel gyntaf yr awdur, Dan yr Wyneb. Golyga hynny fod Meurig Morgan, ynghyd ag ambell gymeriad arall, yn dychwelyd.
Os oes gwendid yn y math yma o lenyddiaeth yn y Gymraeg, diffyg gwybodaeth drylwyr o weithdrefn heddluoedd yw hyn. Ond does dim perygl o hynny yma gan fod y stori'n dod o lygad y ffynnon. Cyn iddo ymddeol roedd yr awdur yn bennaeth Adran Dwyll Heddlu Gogledd Cymru. Ac mae’r ffaith honno’n amlwg ym manylder y stori.
A dyma beth yw chwip o stori. Yr ymadrodd Saesneg am y fath nofel yw ‘page turner’. A phrin fod yna well enghraifft ymhlith nofelau datrys a diogelwch Cymraeg. O’r agoriad i’r clo mae’r stori’n cydio.
Rwy’n un o’r rheiny sy’n hoffi storïau sydd ag awyrgylch yn perthyn iddynt. Y rhywbeth anniffiniol hwnnw sy’n troi stori dda yn un gofiadwy. Dyna, mi gredaf, apêl y cyfresi Sgandinafaidd diweddar. Ac fe’i ceir yn hon. Mae fferm hynafol Glan Morfa mor bwysig i’r nofel ag unrhyw un o’r cymeriadau cig a gwaed sy’n britho’r tudalennau. Mae’r hen le a’i ddirgelion yn gwbl ganolog i’r nofel. Ac er mai Meurig Morgan yw’r cymeriad allweddol, fy hoff gymeriad i yw’r Ditectif Gwnstabl Jeff Evans. Mae pob un o’r cymeriadau’n greadigaethau crwn. Ond mae hwn yn gymeriad sy’n sefyll allan. Nid arwr yw hwn ond gwrtharwr, plismon deallus ond gyda thraed o glai.
A chryfder mawr y nofel yw trylwyredd y cymeriadu. O’r distatlaf i’r cryfaf maent yn gymeriadau crwn, cyflawn. Y gair allweddol wrth ddisgrifio’r nofel yw ‘gafaelgar’. Ydi, mae hi’n cydio ac yn gwrthod gollwng gafael. Mae yma hen wraig sy’n cael ei phoeni gan ysbryd. Anodd yw iddi hi – ac i ninnau – benderfynu ai ysbryd go iawn neu ei mab hi ei hun o’r gorffennol sy’n ei phoenydio. Mae rhywun neu rywbeth yn stelcian o gwmpas Glan Morfa. Ar ben hynny cawn stori o lygredd mewn llywodraeth leol ac o fewn yr heddlu eu hunain. Ond does neb na dim yn gwbl ddu a gwyn. Mae hyd yn oed y dihirod tywyllaf yn rhyw fath o ddioddefwyr eu hunain. A rhywbeth felly yw bywyd go iawn, onid e?
~Lyn Ebenezer @ www.gwales.com
Related Books
Please note that ePub files can now be opened on Kindle.
This website uses cookies. By continuing to use this website you are giving consent to cookies being used. For more information on how you can disable them, visit our Privacy and Cookie Policy.
Strictly Necessary Cookies
Strictly Necessary Cookie should be enabled at all times so that we can save your preferences for cookie settings.
If you disable this cookie, we will not be able to save your preferences. This means that every time you visit this website you will need to enable or disable cookies again.