The third title in a series of three following the adventures of 'Trio' - a group of lively friends who have fun on the eisteddfod field. This time they try to solve the mystery of the lost Eisteddfod Chair, a few hours before the ceremony!
Wel, efallai na chawsom Eisteddfod eleni, ond mae yna achos dathlu oherwydd mae Manon Steffan Ros, wedi cyhoeddi llyfr arall yn y gyfres boblogaidd Trio. Gan fod yna dri llyfr bellach, mae’r drioleg yn gyflawn o’r diwedd!
Dyma gyfres wreiddiol a chyffrous i blant o saith oed ac yn hŷn. Arwyr y straeon yw tri o blant sy’n galw eu hunain yn ‘Trio’, ac maen nhw’n defnyddio eu sgiliau i ddatrys sawl dirgelwch gan hefyd fynd ar anturiaethau difyr. Mae blas tebyg i hen glasuron Enid Blyton ar y llyfrau, ond mae hon yn gyfres ffres, modern a gwreiddiol sy’n unigryw i Gymru.
Mae’r criw, sef Derec Dynamo, Clem Clyfar a Dilys Dyfeisgar yn arwyr, ydyn, ond maen nhw hefyd yn hollol ddi-glem. Yn aml iawn, gwnânt smonach lwyr o bethau gyda chanlyniadau doniol. Fedrwch chi ddim peidio â hoffi’r cymeriadau yma.
Y tro hwn, mae’r plant yn mynd am antur i’r Eisteddfod. Dydi’r tri erioed wedi bod yn yr Eisteddfod Genedlaethol o’r blaen felly mae am fod yn brofiad newydd a chyffrous.
Wrth i’r criw archwilio’r maes, dônt ar draws yr Archdderwydd ei hun (y dyn pwysig yn y wisg ffansi) a thrwy dipyn o glustfeinio craff, daw’r criw i wybod bod Y GADAIR wedi diflannu. Nid unrhyw gadair, o na, ond PRIF gadair y BRIF seremoni! O na! Bydd rhaid i’r tri ddibynnu ar eu holl sgiliau os ydynt am ddarganfod pwy yw’r lleidr a dychwelyd y Gadair cyn y seremoni. Ras yn erbyn y cloc, felly!
Mae’r ffaith fod y cymeriadau dipyn bach yn wirion (ond yn hoffus) yn rhoi sbin ychydig bach yn wahanol ar y syniad o ‘arwyr’. Dydyn nhw ddim yn cael pethau’n iawn bob tro – ond maen nhw’n ‘trio’, dydyn! Ba-dwm! Dyma stori ysgafn sy’n hawdd ei dilyn, ac mae lluniau digrif Huw Aaron yn ychwanegu at yr hiwmor.
Os ydach chi’n licio dipyn o antur, straeon ditectif a hiwmor – fe gewch chi hyn i gyd a mwy yn llyfrau Trio. Cofiwch am y clwb darllen cŵl i blant, Clwb Trio, sy’n cyd-fynd â’r gyfres, ac mae’r aelodaeth yn rhad ac am ddim!
~Morgan Dafydd @ www.gwales.com
Related Books
Please note that ePub files can now be opened on Kindle.
This website uses cookies. By continuing to use this website you are giving consent to cookies being used. For more information on how you can disable them, visit our Privacy and Cookie Policy.
Strictly Necessary Cookies
Strictly Necessary Cookie should be enabled at all times so that we can save your preferences for cookie settings.
If you disable this cookie, we will not be able to save your preferences. This means that every time you visit this website you will need to enable or disable cookies again.