Personal and piercing essays by Manon Steffan Ros, one of Wales' best contemporary authors. The essays, which deal with various topics such as People, Culture, Places and Suffering comprise comprise material which appeared originally in her weekly column in Golwg.
Ysgrifau treiddgar a phersonol gan un o awduron cyfoes gorau Cymru, Manon Steffan Ros. Mae'r ysgrifau yn cynnwys deunydd gorau o'i cholofn wythnosol yn Golwg. Ceir adrannau gwahanol ar bynciau gwahanol yn cynnwys Pobl, Diwylliant, Llefydd a Dioddefaint.
~Publisher: Y Lolfa
Mae’n hawdd gweld sut y gallai penawdau newyddion fod yn dir ffrwythlon i lenor. Wedi’r cyfan, maent yn cyflwyno i ni straeon dramatig llawn trasiedi a thrais, arwriaeth a dewrder, yn sôn am argyfyngau ac am newidiadau cymdeithasol mawr ac yn cofnodi bywyd a marwolaeth unigolion blaenllaw. Bob wythnos ers 2014, bu Manon Steffan Ros yn ymateb yn greadigol i stori yn y newyddion ar ffurf darn cynnil o lenyddiaeth yng nghylchgrawn Golwg. Mae Golygon yn cyflwyno detholiad o’r darnau hyn, wedi eu casglu yn ôl categorïau thematig yn hytrach na threfn gronolegol.
Amrywiaeth y darnau yw un o gryfderau’r gyfrol, gan arddangos dawn yr awdur i ymateb yn graff ac yn grefftus i ystod hynod o eang o bynciau – o stormydd Aberystwyth i drychineb Aber-fan, o Brexit i Brangelina, o’r ffrae dros addysg Gymraeg yn Llangennech i’r trais terfysgol yn Nice, Paris ac Orlando. Mae yma hefyd ysgrifau teimladwy ar achlysur marwolaeth ffigyrau adnabyddus fel Rhodri Morgan a Gareth F. Williams, a darnau sy’n deillio o fywyd bob dydd a chylch byd natur. Mae pob un, heb eithriad, yn bwrw goleuni amgen a disglair ar bynciau a digwyddiadau yng Nghymru a thu hwnt.
Er yr amrywiaeth yma, mae yna naws waelodol gyffredin i’r darnau sy’n ymateb i ddigwyddiadau cyfredol – rhyw ymdeimlad o fod eisiau dadlennu anghyfiawnder a rhagrith. Efallai na fyddai llenor llai dawnus, wrth ymdrin â phynciau llosg o’r math yma, wedi gwneud fawr mwy na rhefru a chollfarnu, gyda ffurf mor gryno yn gwahodd ymateb unllygeidiog ac arwynebol. Ond cyflwyna Manon Steffan Ros, drwy ddarnau o lên micro cynnil a chofiadwy, y cig a’r gwaed y tu ôl i ffeithiau moel y penawdau, y teimladau a’r tensiynau y tu ôl i’r dyfyniadau a’r datganiadau, gan gyfleu persbectif a safbwyntiau amrywiol, ac yn aml yn annisgwyl, lu o gymeriadau sy’n codi cwestiynau o bwys ym meddwl y darllenydd.
Mae un o ysgrifau cryfaf y casgliad yn cyfleu hanfod y gyfrol i’r dim. Sbardunwyd ‘Burkini’ gan stori am heddlu Ffrainc yn gorfodi menywod Mwslemaidd i ufuddhau i’r gwaharddiad ar eu dillad nofio ceidwadol mewn ymateb i’r ymosodiadau ar y wlad. Ond nid stori am y gwaharddiad yw ‘Burkini’. Nid oes sôn am draethau Ffrainc, na chrefydd nac eithafiaeth na therfysgaeth yn y darn. Yn hytrach cawn bortread o fam ifanc newydd yn ymbaratoi ar gyfer noson allan gyda’i gŵr, sy’n ei gorfodi yn y pen draw i wisgo i’w blesio ef, er gwaethaf ei theimladau hithau. Codir drych i’n cymdeithas ‘ryddfrydol’ a hynny heb fod y neges yn drech na’r dweud.
Mae yma ddawn dweud feistrolgar a dealltwriaeth ddofn o’r natur ddynol. Mae’r ysgrifau, er eu cysylltiad â materion y dydd, yn trin a thrafod themâu oesol gan sicrhau i’r gyfrol apêl barhaol. Mae Golygon yn cynnig nid yn unig olwg newydd ar bynciau cyfarwydd a phwysig ond hefyd olwg ddyfnach arnom ni ein hunain.
~Sioned Williams @ www.gwales.com
Related Books
Please note that ePub files can now be opened on Kindle.
This website uses cookies. By continuing to use this website you are giving consent to cookies being used. For more information on how you can disable them, visit our Privacy and Cookie Policy.
Strictly Necessary Cookies
Strictly Necessary Cookie should be enabled at all times so that we can save your preferences for cookie settings.
If you disable this cookie, we will not be able to save your preferences. This means that every time you visit this website you will need to enable or disable cookies again.