Join author Dylan Ebenezer as he recalls the excitement amongst the Welsh football team and their fans as they secure their place at the Euro 2016 tournament. The perfect companion for football fans, including a bilingual list of footballing terms. Written as part of the Quick Reads literacy scheme.
Cyffro gemau tim pel-droed Cymru wrth iddyn nhw ennill eu lle yn Ewro 2016, gan Dylan Ebenezer. Ceir rhestr ddwyieithog o dermau pel-droed. Llyfr delfrydol i unrhyw un sydd yn edrych ymlaen at y cystadlu yn Ffrainc yn ystod haf 2016. Fe'i hysgrifennwyd yn rhan o gynllun llythrennedd Stori Sydyn.
~Publisher: Y Lolfa
Dyma gyfrol amserol a hynod addas yn y gyfres Stori Sydyn, cyfres sydd wedi ei chreu'n benodol ar gyfer pobl sy'n gyndyn o ddarllen fel arfer. Hanes llwyddiant tîm pêl-droed Cymru yn cyrraedd Ffrainc a gemau Ewro 2016 a geir yn y gyfrol fer, gan tudalen hon. Daw holl ddawn y sylwebydd pêl-droed i’r amlwg wrth i Dylan Ebenezer ail-fyw pob un gêm yn ymgyrch Cymru i gyrraedd Ffrainc. Mae yma ddisgrifiadau byw o’r gemau, portreadir yr awyrgylch ymhlith y cefnogwyr selog sydd yn dilyn eu tîm ledled y byd, ac atgoffir y darllenydd o brif ddigwyddiadau pob gêm, gan ganolbwyntio ar ambell elfen ddramatig.
Llyfr i’r cefnogwr pêl-droed selog yw hwn ac oherwydd hynny, y mae’n gyfrol brin a gwerthfawr yn y Gymraeg. Yn anad dim, llwydda Dylan Ebenezer i’n denu i ganol y chwarae, ac mae ei swydd wedi ei alluogi i fynd yn ddigon agos at y chwaraewyr i roi i ni olwg fywiog, ddiddorol iawn ar eu hagweddau a’u hymroddiad. Ond gan ei fod yntau'n un o’r cefnogwyr hynny sydd yn fodlon teithio’r byd, y mae’n gallu cyfleu eu gobeithion a’u disgwyliadau hwythau hefyd. Tywysir ni drwy benodau cryno ond lliwgar am bob un o’r gemau. Ceir nerfusrwydd y gêm gyntaf yn Andora, ceir yr hyn a eilw yn 'brydferthwch gêm gyfartal' yn erbyn Bosnia, y frwydr yng Nghyprus, yr ymrafael yn erbyn Gwlad Belg a’r fuddugoliaeth ryfeddol yn Israel – hyn a llawer mwy.
Camp fawr y gyfrol yw portreadu mwy na’r gemau’n unig. Mae’r awdur yn pwyso a mesur y gamp a gyflawnwyd. Mae hefyd yn dawel fach yn dadansoddi’r hyn a roddodd lwyddiant i’r tîm. Yn eu tro, gwerthfawrogir dewrder cyfnod John Toshack, arweiniad tactegol Osian Roberts, gweledigaeth Gary Speed, dycnwch Chris Coleman a’r undod rhyfeddol oedd wedi datblygu yng ngharfan ifanc Brian Flynn a’i berthynas agos â’r cefnogwyr.
Nid y gemau yn unig a geir yma ond yn hytrach y rheswm pam mae carfan mor ifanc o chwaraewyr wedi cyfuno mor rhyfeddol, a chodi gobeithion nid dim ond eu cefnogwyr selog yn unig ond miloedd o’u cyd-wladwyr hefyd. Gobeithio y bydd eu perfformiadau yn Ffrainc yn ystod haf 2016 yn peri mwy o orfoledd i bobl fel Dylan Ebenezer, gan esgor ar gyfrol arall ddarllenadwy iawn maes o law.
~John Roberts @ www.gwales.com
Related Books
Please note that ePub files can now be opened on Kindle.
This website uses cookies. By continuing to use this website you are giving consent to cookies being used. For more information on how you can disable them, visit our Privacy and Cookie Policy.
Strictly Necessary Cookies
Strictly Necessary Cookie should be enabled at all times so that we can save your preferences for cookie settings.
If you disable this cookie, we will not be able to save your preferences. This means that every time you visit this website you will need to enable or disable cookies again.