Ben and Theo Cabango are two mixed-race brothers from Cardiff, and both are rising stars in the sporting world. Ben plays football for Swansea FC and has been included in the Welsh team squad, while the younger brother, Theo is a promising rugby player. We follow their stories through 4 different perspectives - the two brothers and their parents.
Dyma lyfr sy’n cynhesu’r galon. Llyfr am gariad rhieni a’u hymroddiad i weld eu meibion yn llwyddo yn eu dewis feysydd sydd yma. Y teulu, gyda chymorth rhagorol Dylan Ebenezer, sy’n dweud yr hanes a hynny mewn arddull onest ac agos atoch. Ac fel pob llyfr yn y gyfres Stori Sydyn mae’n hawdd iawn i’w ddarllen.
Cafodd y tad, Paulo Cabango, ei eni yn Luanda, prifddinas Angola, mewn cyfnod o ryfel. Yr unig bethau oedd yn bwysig i’w rieni oedd bod bwyd ar y bwrdd a bod y cartref yn ddiogel. Yn 16 oed gadawodd Luanda a mentro i strydoedd diogel Lisbon, ac yn ddiweddarach dilynodd ei chwaer i Gaerdydd. Ar noson allan yn y ddinas honno i ddathlu ei ben-blwydd cwrddodd ag Alysia oedd wedi byw yno drwy gydol ei bywyd. Priododd Paulo ac Alysia a chael dau fab, sef Ben a Theo, a chan fod yr iaith Gymraeg yn bwysig i Alysia cafodd y meibion addysg Gymraeg – ffaith sy’n ein llenwi ni fel Cymry Cymraeg â balchder. Cafodd y bechgyn eu magu mewn tŷ lle roedd pawb yn falch iawn o’u gwreiddiau ac wedi hen arfer gyda’r gymysgedd o ddiwylliannau a thraddodiadau gwahanol.
Yn ôl eu mam, roedd Ben yn blentyn cyfeillgar a Theo’n gariadus, a hi berswadiodd Ben i ymuno â thîm pêl-droed Maindy Corries, gan roi cychwyn i’w yrfa ddisglair. Bu ei dad yn hyfforddi’r tîm hwnnw'n ddiweddarach. Mae Ben yn weithiwr caled fel ei dad, ac yn credu bod y gwaith caled a’r ymdrech ry’ch chi’n eu rhoi pan ydych yn ifanc yn helpu i ddod â’r freuddwyd yn wir.
Gymnasteg oedd cariad Theo cyn iddo droi at rygbi, ac mae wedi chwarae rygbi a thennis hefyd. Enillodd lawer o fedalau mewn gymnasteg a chynrychioli Cymru yn y gamp, ac mae yntau hefyd yn weithiwr caled. Mae doniau’r ddau ym myd y campau’n rhyfeddol a’u llwyddiant yn rhyfeddach fyth. Ond wrth ddarllen y llyfr hynod o ddiddorol hwn deallwn pam bod y ddau’n haeddu’r llwyddiant. Mae Alysia yn pryderu mai dim ond 1% sy’n llwyddo ym myd y gêm bêl-droed broffesiynol, ac mae gyrfa rygbi yn gallu dod i ben yn sydyn yn sgil anafiadau, ond ar hyn o bryd mae’n ymddangos y bydd y ddau Cabango yn dal i’n synnu gyda’u llwyddiant yn ystod y blynyddoedd nesaf. Ac nid eu rhieni a’u teulu ar draws y byd yn unig fydd yn falch o’r llwyddiant hwnnw, ond Cymru gyfan. Dyma lyfr ardderchog am sawl rheswm ac un sy'n werth ei ddarllen.
~Gareth William Jones @ www.gwales.com
Related Books
Please note that ePub files can now be opened on Kindle.
This website uses cookies. By continuing to use this website you are giving consent to cookies being used. For more information on how you can disable them, visit our Privacy and Cookie Policy.
Strictly Necessary Cookies
Strictly Necessary Cookie should be enabled at all times so that we can save your preferences for cookie settings.
If you disable this cookie, we will not be able to save your preferences. This means that every time you visit this website you will need to enable or disable cookies again.