Someone has hacked into the university computers and sets the Physics Department on fire so that important evidence is destroyed. An exciting adventure about computer hacking, in short-chapter form.
Mae rhywun yn hacio i mewn i gyfrifiaduron y brifysgol ac yn rhoi adeilad yr Adran Ffiseg ar dan er mwyn cael gwared ar wybodaeth bwysig. Nofel lawn antur, wedi'i hysgrifennu mewn penodau byr.
~Publisher: Y Lolfa
Does dim yn well na nofel sy'n trafod pynciau modern i ddenu plant a phobl ifainc i ddarllen, a dyna yn union yw'r nofel hon. Yma ceir stori gwbl gyfoes am fyd hacio cyfrifiaduron. Dydyn ni, efallai, ddim yn meddwl bod y fath beth yn digwydd yng Nghymru, ond mae'r nofel yma wedi'i lleoli ym Mhrifysgol Aberystwyth ac wedi'i hysgrifennu gan ddarlithydd sy'n gweithio yn y brifysgol.
Dyma stori sy'n dod â nifer fawr o elfennau ynghyd ar y diwedd, a hynny mewn ffordd gelfydd. Mae'r gwaith ymchwil a wneir gan un doethur yn yr Adran Ffiseg yn gwbl wreiddiol ac, o bosib, ar fin torri tir newydd, ond un noson rhoddir yr Adran Ffiseg ar dân – gan bwy, tybed? Nid dyna ddiwedd y stori – mae gwaith ymchwil hynod o bwysig ar goll a haciwr ifanc iawn a'i ffrind sy'n dod at wraidd y dirgelwch. Mae'n stori sy'n gorffen yn ddigon hapus ond mae 'na ddrama fawr rhwng y cloriau wrth i ni gael golwg ar fyd yr haciwr ac ar bwysigrwydd patents yn y byd gwyddonol.
Hyd yn oed os nad ydych yn ymddiddori yn y byd cyfrifiadurol, bydd elfennau o'r stori gyffrous hon at eich dant. A hithau'n nofel yn y gyfres Pen Dafad, ar gyfer ieuenctid y'i hysgrifennwyd ac rwy'n siŵr y bydd disgyblion hŷn ein hysgolion a myfyrwyr fel ei gilydd yn cael pleser mawr o'i darllen. Gydag ychydig o benodau eraill rwy'n siŵr y gallai'r nofel wneud ffilm dda ryw ddydd. Beth amdani, Hywel Griffiths?
~Sarah Down-Roberts @ www.gwales.com
Related Books
Please note that ePub files can now be opened on Kindle.
This website uses cookies. By continuing to use this website you are giving consent to cookies being used. For more information on how you can disable them, visit our Privacy and Cookie Policy.
Strictly Necessary Cookies
Strictly Necessary Cookie should be enabled at all times so that we can save your preferences for cookie settings.
If you disable this cookie, we will not be able to save your preferences. This means that every time you visit this website you will need to enable or disable cookies again.