A collection of poetry by Hywel Griffiths, the bard and the political protagonist. It includes the poem that won him the Crown at the Cardiff National Eisteddfod of Wales, 2008.
Detholiad o gerddi caeth a rhydd gan y bardd a'r ymgyrchydd gwleidyddol, Hywel Griffiths. Mae'r gyfrol yn cynnwys cerdd fuddugol y Goron a enillodd yn Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd, 2008. Mae'r pynciau'n amrywio o wleidyddiaeth ac iaith i dirwedd, hanes a phobl Cymru.
~Publisher: Y Lolfa
Dywedwyd yn ddiweddar fod rhai beirdd yng Nghymru yn rhy optimistaidd; ond os na chaiff bardd 26 oed deimlo’n obeithiol ac afieithus am ei genedl a’r genhedlaeth y mae’n rhan ohoni, yna pa obaith sydd inni, dywedwch?
Cynrychioli ei genhedlaeth y mae Hywel Griffiths ac mae’r gyfrol hon yn chwa o awyr iach rhag yr hen gonfensiwn llenyddol o ddangos negyddiaeth am ddyfodol ein Cymru fach ni.
Ceir amrediad eang o gerddi yn y gyfrol hon o ran eu harddull, eu mesurau a’u pynciau. Clywn gan y bardd gerddi cymdeithasol fel ‘I Ysgol Llangynog’, cerddi gwleidyddol a stompiadau hwylus megis y ffefryn, ‘Kebaber’. Ceir canu caeth cadarn, ymdriniaeth grefftus o’r soned a’r delyneg, ac mae’n grefftwr o englynwr.
Mae’r canu ar ei gryfa’ pan fo’r bardd yn canu i’w gyd-Gymry a’i genhedlaeth o. Yng ngwaith Hywel Griffiths cawn deimlo rym yr unigolyn i wneud gwahaniaeth wrth wella ei genedl a’i ddaear ac wrth ddod â chyfiawnder i’w gymdeithas. Yr unigolion hyn yw’r llu banerog sy’n defnyddio’r ‘map anghyflawn llawn cynlluniau’ er mwyn newid cwrs eu cenedl. Mae awydd yn y canu hwn i anghofio am hen ffiniau daearyddol sy’n llai perthnasol bellach, a chwalu ffiniau cymdeithasol a seicolegol y Gymru heddiw. Yn ei awdl ‘Ffenestr’, mae’n galw’n afieithus ar ei genedl i ymatal rhag segura:
At y ffenest o ffiniau
o’r lôn hir i lawenhau
â chanu llon dewch yn llu,
dewch i weled ei chwalu.
Da o beth hefyd fod cymaint o gerddi a fu’n fuddugol yn eisteddfodau’r Urdd a’r Genedlaethol yn y gyfrol. Bydd darllenwyr yn mwynhau ffresni ‘Stryd Pleser’ a enillodd Goron Caerdydd 2008 i’r bardd.
Nid safon y farddoniaeth yn unig sydd angen ein sylw wrth adolygu cyfrol o farddoniaeth neu lenyddiaeth gyfoes, wrth gwrs, ond ei diwyg hefyd. Mae diwyg Banerog yn rhagori ar nifer fawr o’n cyfrolau barddoniaeth cyfoes sy’n rhy aml yn bodloni ar gyflwyniadau testun plaen oddi mewn i’w cloriau. Mae’r amrywiaeth sensitif ac addas a geir mewn ffontiau, a’r defnydd effeithiol o ddelweddau neu ddarluniau ar nifer o dudalennau mewnol y gyfrol yn hwyluso’r mwynhad cyffredinol wrth fodio’r tudalennau, yn ogystal â chefnogi a chyfoethogi rhai o’r cerddi. Os bydd beirdd Cymru am barhau â’r traddodiad, bydd gofyn i ddyfodol barddoniaeth Gymraeg ddilyn llwybrau mwy aml-gyfryngol, yn ddi-os.
Cyfrol a fydd yn sicr o blesio’r glust a’r llygad yw hon.
~Osian Rhys Jones @ www.gwales.com
Related Books
Please note that ePub files can now be opened on Kindle.
This website uses cookies. By continuing to use this website you are giving consent to cookies being used. For more information on how you can disable them, visit our Privacy and Cookie Policy.
Strictly Necessary Cookies
Strictly Necessary Cookie should be enabled at all times so that we can save your preferences for cookie settings.
If you disable this cookie, we will not be able to save your preferences. This means that every time you visit this website you will need to enable or disable cookies again.