This special and mesmerising novel came close to winning one of the main literary prizes at last summer's National Eisteddfod. Moss Morgan is a loner and lover of jazz. His decision to move from his home to live in a cave facing the sea has a lifechanging effect on the life of one of the inhabitants of the seaside town of Aberberwan.
Fel enillydd Gwobr Tir na n-Og a Gwobr Llyfrau Plant Earthworm, mae Siân Lewis wedi hen sefydlu ei hun yn awdur llwyddiannus ym maes llyfrau plant, ond dyma hi’n mentro am y tro cyntaf gyda nofel i oedolion.
Pobl cymuned tref fach glan môr Aberberwan, lle digon tebyg i Aberaeron, dybiwn i, yw cymeriadau’r stori. Bronwen, gwraig weddw yng nghanol ei phumdegau a symudodd i fyw yno dair blynedd ynghynt, yw'r prif gymeriad. Mae Bronwen wedi colli ei gŵr ers rhyw wyth mis, ac mae ei chyfaill, Dafina, yn awyddus i’w gweld yn bywiogi ei bywyd. Un o’r pethau mae Bronwen yn penderfynu ei wneud yw paratoi cinio dydd Sul i rai o ddynion sengl canol oed a hŷn y dref. Mae gwahanol gymeriadau’n gweld arwyddocâd gwahanol i’w gweithred ddiniwed, sy’n tanlinellu mor anodd yw hi i ddeall cymhellion ac ymateb pobl i’w gilydd.
Cymeriad ymylol i’r digwyddiadau yw Moss Morgan, sy’n dipyn o ddirgelwch. Ers iddo golli ei fam, mae Moss yn byw fel meudwy mewn ogof ar lan y môr. Does neb mewn gwirionedd yn ei adnabod, dim ond yn ei weld yn cerdded yn ôl a blaen i’w ogof yn gwrando ar ei iPod. Ond wrth i’r nofel fynd rhagddi, mae presenoldeb Moss, a’r gerddoriaeth mae’n gwrando arni’n ddi-baid, yn cael effaith ar y dref a’r bobl, a’u perthynas â’i gilydd. Nid ydym ni fel darllenwyr yn dod i’w adnabod fwy nag y mae gweddill y cymeriadau, ond fe gawn argraff ohono drwy lygaid gwahanol drigolion y dref.
Does dim amheuaeth nad yw Siân Lewis yn awdur medrus, ac yn un sy’n hoffi geiriau’n fawr. Mae’r arddull yn lliwgar tu hwnt – mae cyffro mawr yn rhedeg drwy’r nofel. Mae pawb yn drwsgl – mae sôn am bobl yn taro i mewn i’w gilydd, yn gollwng pethau, yn baglu neu’n arllwys te drostyn nhw eu hunain drwyddi draw. Does prin neb yn siarad – maen nhw’n crawcian, yn chwyrnu, yn sgrechian. Dyw’r ffôn ddim yn canu, ond yn hymian fel pryfyn gwallgo. Wrth i un cymeriad gychwyn i rywle yn y car, nid tanio’r injan a gyrru i ffwrdd a wna, ond mae’r car yn gwichio'i brotest a chwyrnu ar hyd Stryd y Marian. Ambell waith roeddwn i’n blino ar yr holl sboncio a neidio o gwmpas, ond mae cyfoeth yr iaith yn gwbl fwriadol, ac o bosibl yn adleisio’r jazz mae Moss mor hoff ohono.
Mae un digwyddiad pwysig iawn yn y nofel, sy’n ganolog i’r holl stori, ond mae angen mynd yn go bell i mewn cyn i ni ddod at hwnnw. Roeddwn i’n teimlo bod yr hanner cyntaf ychydig yn hir – gellid bod wedi tocio heb golli dim o’r ergyd. Ond mae’n nofel sy’n cynnig darlun o gymuned led-wledig, ac o fywydau pobl ganol oed a hŷn sydd yn wynebu’r dyfodol yn eithaf petrus.
~Catrin Beard @ www.gwales.com
Related Books
Please note that ePub files can now be opened on Kindle.
This website uses cookies. By continuing to use this website you are giving consent to cookies being used. For more information on how you can disable them, visit our Privacy and Cookie Policy.
Strictly Necessary Cookies
Strictly Necessary Cookie should be enabled at all times so that we can save your preferences for cookie settings.
If you disable this cookie, we will not be able to save your preferences. This means that every time you visit this website you will need to enable or disable cookies again.