A powerful novel which hurls us headlong into the chaotic life of Yeshua bar-Yôsep Natz'rat (Jesus son of Joseph of Nazareth). The story of his journey to the Cross is a familiar one, but in this original and skilful book it's presented in a way which challenges that familiarity.
Magwyd fi, chwedl yr hen ystrydeb, ‘ar fronnau’r ysgol Sul’. Dysgais yn gynnar ‘yr hen, hen hanes’. Darllenais yr hanes hwnnw wedyn yn yr Efengylau. Ond ni wnes erioed ei ddarllen fel hyn. Dyma, yn sicr, y nofel fwyaf grymus ac ysgytwol a ddarllenais ers tro.
Mae’r hanes yma yn cychwyn gyda’r croeshoeliad cyn ailgychwyn gyda chenhadaeth Crist a’i wyrthiau. Dychwelwn at y croeshoeliad, ond nid dyna’r diwedd. Chwe blynedd yn ddiweddarach cawn Sha’ul (Saul/Paul) yn ymdynghedu i barhau’r gwaith.
Yr hyn sy'n eich taro gyntaf yw’r defnydd o enwau Iddewig am y bobl a'r lleoedd sydd mor gyfarwydd i ni. Cawn, er enghraifft, Nehar ha Yarden (Iorddonen), Nat’zrat (Nasareth), Yohannan Mamdana (Ioan Fedyddiwr) a Yeshua bar-Yosep (Iesu fab Joseff).
Fe wnaeth yr awdur ddisgrifio’i nofel fel taith arteithiol dyn tuag at hunanymwybyddiaeth. Ie, taith dyn. Mae hynny’n ddweud arwyddocaol. Gydol y daith honno cawn weld y ddeuoliaeth sydd hefyd yn gyfuniad o Grist y dyn a’r dyn sydd Grist. Ble mae’r ffin rhwng y ddau? A oes yna ffin? A drodd Yeshua’n Dduw erbyn diwedd ei daith ddaearol?
Mae’r arddull drwyddi draw yn bwerus. Effeithiol iawn yw’r dull o ailadrodd geiriau a chymalau, yn arbennig felly yng ngolygfeydd y croeshoelio ar Gûlgatâ, ‘Lle’r benglog. Lle’r lladd’. Portreadir y croeshoeliad yn ei holl fryntni, yn ei holl artaith. Nid marwolaeth urddasol ac aruchel oedd croeshoeliad. Na, fe’i portreadir yma yn ei holl realiti hyll, yn fwy fel dehongliad Mel Gibson yn The Passion of the Christ nag un gan artistiaid fel Michelangelo a Fra Angelico. Holl fwriad croeshoelio i’r Rhufeiniaid oedd achosi cymaint o artaith ag yr oedd modd, gan barhau’r artaith honno gyhyd â phosibl.
Mewn cyfnod newydd o wrth-Semitiaeth mae hon yn nofel hynod amserol. Mae’n ein hatgoffa – ac mae angen gwneud – mai Iddew oedd Crist ac mai Iddewon oedd ei ddilynwyr cyntaf. Rhyfedd fel y tueddwn i anghofio hynny.
Wn i ddim a gaiff darllen Iddew effaith wahanol ar Gristnogion ac ar anffyddwyr. Fel un sy’n Gristion, fe wnaeth darllen y nofel gryfhau fy ffydd. Mae’n cadarnhau i mi eiriau’r emynydd Titus Lewis mai ‘Mawr yw Iesu yn ei berson / Mawr fel Duw a mawr fel dyn’.
Cryfder pennaf y nofel yn y pen draw yw iddi beidio â phregethu. Nid yw’n ceisio’n perswadio y naill ffordd na’r llall. Dim ond dweud yr hen, hen stori mewn dull cwbl ysgytwol. A byddai’r Esgob William Morgan ei hun yn amenio’r arddull odidog.
~Lyn Ebenezer @ www.gwales.com
Related Books
Please note that ePub files can now be opened on Kindle.
This website uses cookies. By continuing to use this website you are giving consent to cookies being used. For more information on how you can disable them, visit our Privacy and Cookie Policy.
Strictly Necessary Cookies
Strictly Necessary Cookie should be enabled at all times so that we can save your preferences for cookie settings.
If you disable this cookie, we will not be able to save your preferences. This means that every time you visit this website you will need to enable or disable cookies again.