A lively and timely novel which follows four candidates in one constituency during the 2016 National Assembly Election Campaign. Will they grow closer within their political bubble as they battle for votes? Or will they become sworn enemies?
Os yw wythnos yn amser hir mewn gwleidyddiaeth, mae tirwedd wleidyddol unrhyw wlad yn gallu newid yn syfrdanol dros gyfnod ysgrifennu nofel. Pan ddechreuodd Meg Elis ar nofel wleidyddol sy’n olrhain hanes yr ymgyrch mewn un etholaeth ymylol yn etholiad y Cynulliad yn 2016, roedd tirwedd wleidyddol Prydain yn bur wahanol i’r sefyllfa heddiw, ond mae’n dangos mai’r un math o bryderon sy’n blino ymgeiswyr etholiadol, beth bynnag sy’n digwydd yn y byd ehangach.
Ceir pedwar ymgeisydd yn y frwydr i ennill Powys Fadog, etholaeth newydd a ffurfiwyd yn sgil newid ffiniau. Dyw hi ddim yn cael ei chyfrif yn etholaeth wledig, ond dyw hi ddim yn gwbl drefol chwaith; ar y ffin ond gyda thalpiau helaeth ohoni sy’n Gymreigaidd ac yn Gymraeg iawn. Ys dywed un o’r cymeriadau: 'Swnio i mi fel tasat ti newydd ddisgrifio Cymru gyfan'.
Mae’r ymgeiswyr hwythau’n cynrychioli agweddau amrywiol o Gymru ac at Gymru, ac mae’r nofel yn agor gyda phennod fer o orffennol pob un ohonyn nhw'n egluro eu cefndir gwleidyddol. Cafodd Lowri, ymgeisydd Plaid Cymru, ei geni – yn llythrennol – i ganol berw gwleidyddiaeth wrth i’w rhieni wrando ar ganlyniadau etholiad cyffredinol Chwefror 1974 yn ward geni plant Ysbyty Dewi Sant ym Mangor, ac fe welwn Daniel, yr ymgeisydd Llafur, yn gwneud yn fawr o’i gefndir glofaol wrth ymuno â chymdeithasau yn Ffair y Glas y London School of Economics yn 1989. Y ddau hyn sy’n cael y lle amlycaf yn y stori, ac er eu bod yn gymeriadau digon difyr, hoffwn fod wedi cael gwybod mwy am Ruth, yr ymgeisydd difyrraf o bosib, gyda’i gwallt cwta gloywddu, ei BMW glas a’i DMs coch sydd 'ddim cweit yn ffitio i’r patrwm traddodiadol' o ymgeisydd dros y Ceidwadwyr.
Nofel i bobl sydd â diddordeb mewn gwleidyddiaeth – a gwleidyddiaeth Cymru’n enwedig – yw hon yn bennaf. Mae gofyn am ryw fesur o ddealltwriaeth o’r drefn etholiadol a’r berthynas rhwng y pleidiau, ac mae cefndir Meg Elis fel cyn-ymgeisydd wedi llywio a lliwio llawer o’r hanes, yn enwedig pan fydd yr ymgeiswyr yn mynegi eu teimladau a’u rhwystredigaethau, a hynny gyda dychan digon crafog.
Creu byd dychmygol mae awdur mewn nofel, a dewis yr awdur yw beth i’w gynnwys yn y byd hwnnw. Fodd bynnag, mae’n anodd crwydro’n rhy bell i ffantasi mewn stori sydd wedi’i seilio ar rywbeth fydd yn digwydd ymhen ychydig fisoedd, ac mae ôl ailddrafftio celfydd ar rannau o’r nofel yn sgil canlyniad refferendwm annibyniaeth yr Alban, a hyd yn oed etholiad cyffredinol 2015.
Fel y byddid yn disgwyl mewn nofel am wleidyddiaeth, ceir dichell, celwydd a thwyll, ac unwaith i ni ddeall pwy yw pwy – cawn ein cyflwyno i haid o gymeriadau ar y dechrau – mae’r stori’n symud yn ei blaen yn ddigon sionc.
Dyw pob cwestiwn ddim yn cael ei ateb yn llawn – pam yn union na chafodd Lowri sedd saff i’w hymladd? Beth sy’n achosi’r islais anesmwyth ym mhriodas Gwynne? Ond un ymgyrch ar gyfer un etholiad yw’r nofel hon, ac ar ôl y diwrnod pleidleisio, bydd pawb yn dygymod â’r canlyniad a bywyd yn mynd yn ei flaen. Byddai’n ddifyr ailgyfarfod â nhw a dysgu mwy amdanyn nhw adeg yr etholiad nesaf.
~Catrin Beard @ www.gwales.com
Please note that ePub files can now be opened on Kindle.
This website uses cookies. By continuing to use this website you are giving consent to cookies being used. For more information on how you can disable them, visit our Privacy and Cookie Policy.
Strictly Necessary Cookies
Strictly Necessary Cookie should be enabled at all times so that we can save your preferences for cookie settings.
If you disable this cookie, we will not be able to save your preferences. This means that every time you visit this website you will need to enable or disable cookies again.