A first reference book for smart kids, packed with amazing photographs and information about some of the world's most deadly predators. Includes essential facts about each animal, including size, habitat and preferred prey. Ideal for fact-hungry kids!
Dyma gyfrol a ddylai fod yn boblogaidd iawn mewn ysgolion. Mae anifeiliaid yn ddeniadol, ond ychwaneger y gair 'peryglus' a bydd llawer iawn o fodio ar y gyfrol. Addasiad o gyfrol Saesneg gan Steve Parker yw hon, ac y mae Bethan Mair wedi defnyddio geirfa syml ac addas wrth gyfieithu. Mae yma ryw ddau ddwsin o anifeiliaid yn cael sylw, a phob un yn cael tudalen gyfan. Ceir lluniau dramatig o'r creaduriaid, un 'ffaith ffyrnig' am bob anifail ynghyd â pharagraff byr yn disgrifio sut mae'r anifail yn byw ac yn hela. Yng nghornel pob tudalen ceir 'sgôr' i bob anifail. Efallai fod hyn yn gamarweiniol oherwydd mewn gwirionedd ceir tair ffaith: maint, cyflymder a sgôr hela – hynny yw un, elfen yn unig yw'r sgôr.
Dyma gyfrol oedd yn agoriad llygaid i mi. Dywedir, er engraifft, mai'r anifail mwyaf peryglus a mwyaf effeithiol yn lladd ei brae ydi sglefren fôr bocs. Gall gwenwyn y sglefren ladd person mewn cyn lleied â phedwar munud. Ond rhag i rywun feddwl bod llew neu lewpart neu arth yn agos at fod mor effeithiol â'r anifeiliad bychain, anifail bach arall sydd yn ail o ran sgôr perygl yw'r mantis gweddïol. Gall y mantis ddal ei ysglyfaeth yn hanner yr amser mae'n ei gymryd i berson gau ac agor ei lygaid.
Mae hon yn gyfrol hardd, ddeniadol fydd yn cipio dychymyg plant ac yn rhoi gwybodaeth ddifyr iawn iddynt. Mi all y gyfrol arwain at gwestiynau cwis diddorol ac amrywiol. Dyma enghraifft: Mewn sawl eiliad gall llewpart hela gyrraedd cyflymder o chwe deg milltir yr awr? Yr ateb – tair eiliad yn unig, waw! Porwch drwy'r gyfrol hon am ragor o ffeithiau rhyfeddol. Chewch chi mo'ch siomi.
~John Roberts @ www.gwales.com
Related Books
Please note that ePub files can now be opened on Kindle.
This website uses cookies. By continuing to use this website you are giving consent to cookies being used. For more information on how you can disable them, visit our Privacy and Cookie Policy.
Strictly Necessary Cookies
Strictly Necessary Cookie should be enabled at all times so that we can save your preferences for cookie settings.
If you disable this cookie, we will not be able to save your preferences. This means that every time you visit this website you will need to enable or disable cookies again.