A brilliant adaptation, by Gwynne Williams, of Roald Dahl's irreverent and hilarious collection, Revolting Rhymes. This book is filled with revolting rhymes. (Be warned: It's no ordinary Once upon a time). There's poor Cindy whose heart was torn to shreds, because her Prince, he chops off heads!gain...
Mae Roald Dahl wedi tynnu ei bensil hud o’i gas pensiliau, wedi ei miniogi, ac wedi rhoi swyn ar bapur yn ei ffordd unigryw ei hun unwaith eto. Yma, mae’r awdur penigamp yn troi sawl stori boblogaidd ben i waered, a throi cymeriadau diniwed i fod yn ‘ddiawliaid’ mewn croen. Diolch i ddawn addasu Gwynne Williams, mae’r cerddi ffiaidd hyn yn gweithio hefyd yn Gymraeg a phob gair yn gwneud ei waith cystal â geiriau Roald Dahl ei hun.
Wrth ddarllen am hanes Sinderela, y Tri Mochyn Bach, Nia Ben Aur a'r Hugan Fach Goch, feddylion ni erioed mor wahanol allai’r straeon hyn fod petaen nhw'n magu tipyn o ddiawlineb ac wmff. Wyt ti’n barod am sioc?
Bydd pob blaidd yn crynu yn ei sgidiau wrth ddarllen hanes yr Hugan Fach Goch. Dyma lodes gyfrwys ar y naw, ac un beryg wrth ddal gwn! Dydi Nia Ben Aur ddim yn angel o bell ffordd, a dydi Sinderela ddim am fodloni ar ryw lipryn o dywysog dwy a dime. Dyma gyfrol sy'n chwa o awyr iach ac yn un sy'n ysgiwio'r storïau hud a lledrith cyfarwydd.
Mae Roald Dahl, a Gwynne Williams yn ei dro, wedi gafael yn y cymeriadau hyn gerfydd eu diniweidrwydd ac wedi eu hysgwyd nes eu bod yn gymeriadau gwerth eu halen. Wedi'r cyfan, mae yna elfen o ddiawlineb ym mhob un ohonon ni, on'd oes?
~Llinos Griffin @ www.gwales.com
Related Books
Please note that ePub files can now be opened on Kindle.
This website uses cookies. By continuing to use this website you are giving consent to cookies being used. For more information on how you can disable them, visit our Privacy and Cookie Policy.
Strictly Necessary Cookies
Strictly Necessary Cookie should be enabled at all times so that we can save your preferences for cookie settings.
If you disable this cookie, we will not be able to save your preferences. This means that every time you visit this website you will need to enable or disable cookies again.