It's never too early to introduce children to the magic and wonder of fairy tales. Classic characters are brought to life at each turn of the page with spellbinding artwork and lyrical writing. Mum and Molly make a gingerbread man for tea, but he escapes and runs away. Can anybody catch him? This book also includes a recipe for making a Gingerbread Man.
Dyma gyfrol fach clawr caled atyniadol newydd yn y gyfres Fy Amser Stori Cyntaf, gyda stori gyfarwydd iawn, sef y dyn bach sinsir drwg hwnnw sy’n dianc a neb yn gallu ei ddal nes i’r llwynog cyfrwys ei hebrwng ar draws yr afon ac yna ei lyncu a’i fwyta. Cyfrinach apêl y straeon syml hyn yw'r ffaith bod modd eu cyflwyno i blant bach dros y cenedlaethau, a'u bod yn ddifyr ac yn newydd i bob cenhedlaeth. Gellir olrhain stori’r dyn bach sinsir yn ôl i 1875, ac mae’n ddoniol iawn wrth i'r rhestr o bobl sy’n rhedeg ar ôl y dyn bach yn mynd yn hwy o dudalen i dudalen. Ceir rhythm apelgar a chofiadwy i’r ailadrodd cyson: “Rhedwch a rhedwch fel y gwynt ar antur, ond wnewch chi byth ddal y dyn bach sinsir!”
Addaswyd y fersiwn yn arbennig o dda gan Non Tudur gyda geirfa goeth ond hawdd i’w dilyn, ac mae’r lluniau lliwgar gan Sophie Rohrbach yn llawn bywyd a hwyl. Dyma gyfrol i’w darllen i blant bychan cyn mynd i gysgu neu i’w mwynhau ar lafar mewn ysgol feithrin neu i blant ieuengaf yr ysgol gynradd. Mae yma hefyd rysáit ar gyfer coginio dyn sinsir, a phos darganfod y gwahaniaeth rhwng dau lun ar y clo. Mae’n werth nodi mai cyfrol uniaith Gymraeg yw hon.
~Gwenan Mared @ www.gwales.com
Related Books
Please note that ePub files can now be opened on Kindle.
This website uses cookies. By continuing to use this website you are giving consent to cookies being used. For more information on how you can disable them, visit our Privacy and Cookie Policy.
Strictly Necessary Cookies
Strictly Necessary Cookie should be enabled at all times so that we can save your preferences for cookie settings.
If you disable this cookie, we will not be able to save your preferences. This means that every time you visit this website you will need to enable or disable cookies again.