A collection of short stories by Fflur Dafydd, the winner of the National Eisteddfod Prose Medal in 2006. From the Welsh to the European, and the satirical to the contemplative, this is a collection that will captivate readers, but will also challenge them to fill in some of the gaps for themselves.
Casgliad o storiau byrion gan enillydd Medal Ryddiaith 2006, Fflur Dafydd. O'r Cymreig i'r Ewropeaidd, ac o'r dychanol i'r myfyriol, dyma gasgliad fydd yn swyno'r darllenydd, ond hefyd yn ei herio i lenwi ambell fwlch drosto'i hun.
~Publisher: Y Lolfa
Yn aml, ac yn gwbl gyfeiliornus, ystyrir y stori fer yng Nghymru fel chwaer fach i’r nofel. Gallaf ddychmygu ambell ddarpar awdur, fi yn eu plith, yn dweud wrtho’i hun, ‘Mae gen i syniad da, ond dyw e ddim digon hir i fod yn nofel. Fe gaiff, felly, fod yn stori fer.’
Na, nid ei hyd na’i byrdra sy’n diffinio stori fer. Mae hi’n ffurf lenyddol gwbl ar wahân. A mentraf ddweud ei bod hi hefyd yn ffurf fwy anodd na’r nofel o’i chyflawni’n llwyddiannus. Gellid, hwyrach, gymharu nofel â stori fer fel cymharu ffilm â ffotograff. Cawn y naill ar draws cynfas eang, ond y llall yn giplun.
Ond yn hytrach na dadansoddi hanfodion stori fer, mae yna ddull llawer haws i ddarllenydd weld drosto’i hun ganlyniad meistroli’r dull llenyddol unigryw hwn. Darllenwch Awr y Locustiaid. Fedra’i ddim dychmygu gwers well.
Mae broliant twt Bobi Jones yn bwrw'r hoelen ar ei phen: ‘Mae hi’n cydio mewn brawddeg, ac yn ei thaflu’n delyneg i’r awyr. Ac mae’n hedfan. Wow!’ Ceir yma naw stori, pob un yn amrywio, pob un yn wahanol, pob un yn adlewyrchu dawn dweud ryfeddol awdures ifanc sy’n ddewines geiriau. Mae hi’n llwyddo i glymu a phlethu geiriau a brawddegau gan greu campweithiau. Eto i gyd, maen nhw’n disgyn yn naturiol i’w lle heb unrhyw ymgais i wneud strôc na bod yn glyfar. Dyma adlais o’r gyfres deledu wych honno Tales of the Unexpected, ond bod y rhain yn fwy crefftus.
O’r frawddeg agoriadol, mae’r stori gyntaf yn eich taro a’ch goglais ar yr un pryd gyda’i hiwmor du. Yn ‘Gwaed’ mae’r weithred syml o roi cyflenwad o’i waed yn troi’n hunllef i’r rhoddwr. Yn Awr y Locustiaid mae’r parchusion yn cuddio dan gochl chwilod salw. Yn fy hoff stori o’r gyfrol, ‘Mis Mêl’, mae llefarydd y stori yn dysgu gwenyn i ddial ar ei gŵr dideimlad, di-serch. Ac mae’r defnydd o amser yn y stori olaf yn rhyfeddol, lle mae awdur preswyl yn Helsinki/ Helsingfors yn edrych ymlaen at gael ystyr i'w bywyd mewn presennol sydd eisoes yn y dyfodol.
Mae’r naw stori yn talu’n llawn am eu lle. Ynddynt, mae popeth ac unrhyw beth yn bosibl. Ynddynt mae’r anghyffredin yn gwbl normal, yr egsentric yn gwbl resymol a’r absẃrd yn gwbl resymegol. Dyma, yn wir, berl o gyfrol gan un o’n hawduron mwyaf cyffrous.
~Lyn Ebenezer @ www.gwales.com
Related Books
Please note that ePub files can now be opened on Kindle.
This website uses cookies. By continuing to use this website you are giving consent to cookies being used. For more information on how you can disable them, visit our Privacy and Cookie Policy.
Strictly Necessary Cookies
Strictly Necessary Cookie should be enabled at all times so that we can save your preferences for cookie settings.
If you disable this cookie, we will not be able to save your preferences. This means that every time you visit this website you will need to enable or disable cookies again.