A title in the short and fast-paced series Quick Reads. This is the story of Swansea City's extraordinarily successful 2010-11 season. In the year of the club's centenary, the team is also celebrating its first season in the English Premier League. This books gives a history of the club from the beginning in 1912, when Swansea Town was established.
Teitl yn y gyfres o gyfrolau byr a chyflym Stori Sydyn. Cyfrol sy'n adrodd hanes rhyfeddol clwb pel-droed Abertawe, a'i daith anhygoel i'r Uwch Gynghrair. Mae'r llyfr yn canolbwyntio'n bennaf ar dymor llwyddiannus 2010-11. Mae'r awdur wedi bod yn gefnogwr triw i'r clwb dros y blynyddoedd.
~Publisher: Y Lolfa
Mae dathlu canmlwyddiant yn ennyn ar lawenydd. Bydd y gorfoledd yn fwy os bydd Abertawe yn dal yn Uwchgynghrair Lloegr pan ddaw’r achlysur hwnnw yn ystod haf eleni. Croeso cynnes, felly, i’r llyfr hwn yn y gyfres Stori Sydyn ar drothwy’r garreg filltir yn hanes y clwb pêl-droed a ymgartrefodd erbyn hyn yn Stadiwm y Liberty.
Dyma lyfr ddylai hawlio sylw dilynwyr y bêl gron ar hyd a lled y wlad oherwydd cofnodir y gwych a’r gwachul yn hynod o ddifyr. Mae’r bennod sy’n sôn am oes aur Toshack yn sicr o ddenu chwilfrydedd darllenwyr o bob oed. Bydd y manylion am Ivor Allchurch a’i gyfoedion yn llonni calonnau y rhai a gafodd y fraint o weld yr arwyr yn arddangos eu doniau.
Mae breuddwydion yn ran annatod o fywyd cefnogwyr pêl-droed. Cofnodir nifer a wireddwyd yn y llyfr ond hefyd, yn bwysicach, rhoddir sylw i’r hunllefau ar y maes a thu hwnt. Dysgwyd rhai gwersi ond bu esgeulustod ariannol yn bwnc cyson i ddilynwyr nifer o glybiau. Llwyddodd y llyfr i ddarlunio rhai cymeriadau diddorol o’r newydd. Diolch hefyd am y cyfle i ddwyn i gof chwaraewyr fel Herbie Williams a oedd yn llechu yn niwloedd pell plentyndod.
Mae rheolwyr clybiau pêl-droed yn griw amrywiol a lliwgar ar adegau. Gwenu a gwgu fydd tynged y darllenydd wrth feddwl am rai a gafodd y barchus arswydus swydd ar y Vetch ac yn ddiweddarach ar y Liberty. Bathwyd nifer o enwau er mwyn disgrifio'r gŵr sydd wrth y llyw gan glybiau bach a mawr. Gall fod yn brif hyfforddwr neu’n gyfarwyddwr pêl-droed ond waeth beth fo'r enw ennill yw’r disgwyliad mawr.
Cofnodir hynt a helynt yr Elyrch yn ystod misoedd cynnar y tymor cyntaf yn yr Uwchgynghrair. Gobeithio y daw cyfle i ddarllen atodiad yn manylu ar y tymor hanesyddol maes o law.
~Trefor Jones @ www.gwales.com
Related Books
Please note that ePub files can now be opened on Kindle.
This website uses cookies. By continuing to use this website you are giving consent to cookies being used. For more information on how you can disable them, visit our Privacy and Cookie Policy.
Strictly Necessary Cookies
Strictly Necessary Cookie should be enabled at all times so that we can save your preferences for cookie settings.
If you disable this cookie, we will not be able to save your preferences. This means that every time you visit this website you will need to enable or disable cookies again.